Gorsaf reilffordd Afon Wen

Roedd gorsaf reilffordd Afon Wen yn orsaf reilffordd ym mhentref bychan Afon Wen ar Benrhyn Llŷn, Gwynedd, cafodd ei agor yn 1867 ac wedyn ei chau yn 1964.

Afon Wen
Lleoliad
Lle Afon Wen
Awdurdod lleol Gwynedd
Gweithrediadau
Nifer o blatfformau 3
Hanes
Agor 2 Medi, 1867
Cau 7 Rhagfyr, 1964

Roedd yr orsaf yn ffurfio cyffordd rhwng Rheilffordd Aberystwyth ac Arfordir Cymru a Rheilffordd Sir Gaernarfon.

Hanes golygu

Daeth Rheilffordd Aberystwyth ac Arfordir Cymru yn rhan o Reilffyrdd Cambrian yn 1864 a Rheilffordd y Great Western yn 1923. Daeth Rheilffordd Carnarvonshire yn rhan o Reilffordd Llundain a Gogledd Orllewin Lloegr ac yn  rhan o Reilffordd Llundain, y Canolbarth a'r Alban yn 1923. Fel rhan o Reilffordd y Great Western, trosglwyddodd yr orsaf i Ranbarth Gorllewinol Rheilffyrdd Prydain ar wladoli ym 1948 (gan basio yn ddiweddarach i Ranbarth Canolbarth Lloegr yn 1963 gyda gweddill llinellau Rheilffordd Cambrian yng ngogledd Cymru[1]).

Roedd 3 platfform, ystafell aros, ystafell aros i fenywod, swyddfa tocynnau, swyddfa porthorion, toiled a phont rhwng y platfformau. Roedd llinell basio er mwyn i drenau ar y llinell sengl basio eu gilydd, ardal ar gyfer siyntio gwaegnnu nwyddau o un llinell i'r llall ond dim cyfleusterau i ddosbarthu neu casglu nwyddau yn yr orsaf. Roedd peiriant troi injanau o gwmpas a thanciau dŵr i injanau stêm[2].

Pan caewyd y lein rhwng Afon Wen a Chaernarfon fel rhan o gynllun Beeching ar 7 Rhagfyr 1964, caewyd yr oraf ar yr un pryd. Prif bwriad yr orsaf odd fel cyffordd, er bod mynediad i'r orsaf o'r pentref dros bont cerdded ond yn wahanol i orsaf Morfa Mawddach oedd gyda phwrpas tebyg, roedd orsaf arall (Penychain) yn ddigon agos i wasanaethu pentref Afon Wen[2].

Arhosodd y blwch arwyddion ar agor wedi cau’r orsaf fel llinell basio ar y lein rhwng Cricieth a Phwllheli tan 1967. Cafodd adeiladau’r orsaf eu dymchwel tua diwedd y 1970au er bod un platform dal i weld ar y safle. Mae trenau rhwng Machynlleth a Phwllheli dal yn pasio’r trwy’r safle[2].

Cân golygu

Daeth gorsaf Afon Wen yn enwog i nifer o bobl o ganlyniad y gan Ar y Trên i Afon Wen gan, Sobin a'r Smaeliaid, gyda Bryn Fôn[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. Johnson, Peter, 1949-. The Cambrian Railways : a new history. Hersham, Surrey. ISBN 978-0-86093-644-2. OCLC 868069170.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  2. 2.0 2.1 2.2 "Disused Stations: Afon Wen Station". www.disused-stations.org.uk. Cyrchwyd 2020-05-05.
  3. "Sobin a'r Smaeliaid - Sobin a'r Smaeliaid - Music - Sain Records - Music from Wales". sainwales.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-05-13. Cyrchwyd 2020-05-05.

Dolen allanol golygu