Gorsaf reilffordd Pwllheli
Mae gorsaf reilffordd Pwllheli yn orsaf reilffordd sy'n gwasanaethu tref arfordirol Pwllheli ar Benrhyn Llŷn yng Ngwynedd, Cymru. Dyma derfynfa Rheilffordd Arfordir Cambria.
Math | gorsaf reilffordd, gorsaf pengaead |
---|---|
Enwyd ar ôl | Pwllheli |
Agoriad swyddogol | 1909, 1867 |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Pwllheli |
Sir | Pwllheli |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 5 metr |
Cyfesurynnau | 52.888°N 4.417°W |
Cod OS | SH375350 |
Rheilffordd | |
Nifer y platfformau | 1 |
Côd yr orsaf | PWL |
Rheolir gan | Trenau Arriva Cymru |
Perchnogaeth | Network Rail |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Hanes
golyguCafodd yr orsaf wreiddiol ei hadeiladu ym 1869 gan Reilffordd Aberystwyth ac Arfordir Cymru, un o gwmnïau Rheilffyrdd y Cambrian.
Yn dilyn adfer tir, cafodd y rheilffordd ei hymestyn i'r gorllewin, yn nes at ganol y dref, a gorsaf newydd yn cael ei hagor ar y safle presennol ym 1909. Roedd yr orsaf yn cynnwys dau blatfform a doc llwytho bychan, cynllun a oroesodd tan y cyfnod o "resymoli" ym 1976.
Cafodd iard nwyddau ei datblygu ar safle'r orsaf wreiddiol. Roedd y safle hefyd yn cynnwys trofwrdd sydd bellach ym meddiant Rheilffordd Gorllewin Gwlad yr Haf.
Dyblodd y Great Western Railway y linell rhwng yr orsaf a'r iard nwyddau er mwyn cynyddu cynhwysedd, ond cafodd yr arwyddion eu tynnu yn 1976 ac mae'r adran trac dwbl yn awr yn ffurfio run-round loop hir ar gyfer trenau siarter.
Cyn cau'r lein Afon Wen i Gaernarfon yn 1964, roedd dau wasanaeth cyflym yn ystod yr haf rhwng Pwllheli a Llundain.
Ar 12 Medi 1976, cafodd y ddau flwch arwydd yn yr orsaf ei chau. Cafodd y nifer o lwyfannau eu lleihau i un. Mae archfarchnad wedi cael ei ddatblygu ar y tir diangen.
Gwasanaethau
golyguMae gwasanaethau teithwyr yn cael eu gweithredu gan Trafnidiaeth Cymru ac yn gadael o Bwllheli i Fachynlleth, Amwythig a Birmingham. Mae pob gwasanaeth yn cael eu gweithredu gan ddefnyddio trenau Dosbarth 158. Mae gwasanaethau siarter hefyd yn achlysurol yn dod i ben yn yr orsaf.
Ers Tachwedd 2013, does dim o wasanaethu rhwng Harlech a Phwllheli gan gaeir y Bont Briwet ger Llandecwyn, tan gwblhad pont newydd yn 2015; ond oes gwasanaeth bysiau dros dro.