Gorsaf reilffordd Craven Arms
Mae gorsaf reilffordd Craven Arms yn orsaf reilffordd sy'n gwasanaethu tref fechan Craven Arms yn Swydd Amwythig, Gorllewin Canolbarth Lloegr.
Math | gorsaf reilffordd |
---|---|
Agoriad swyddogol | 1852 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Craven Arms |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 52.4425°N 2.8375°W |
Cod OS | SO431830 |
Rheilffordd | |
Nifer y platfformau | 2 |
Côd yr orsaf | CRV |
Rheolir gan | Trenau Arriva Cymru |
Hanes
golyguAgorwyd Rheilffordd Amwythig a Henffordd hyd at Llwydlo ar 20 Ebrill 1852, gan gynnwys Craven Arms. Estynnwyd y lein i Henffordd ym 1853. Daeth Craven Arms yn gyffwrdd pan agorwyd lein i Dref-y-clawdd ym 1861. Agorwyd Rheilffordd Trefesgob ym 1865, ac wedyn Rheilffordd Gweunllwg, yn cysylltu Gweunllwg â Wellington, Swydd Amwythig ym 1867. Adeiladwyd depo locomotifau yno, a thai teras ar Deras y Rheilffordd.[1]
Caewyd y lein i Drefesgob ym 1935 a'r un i Weunllwg ym 1951. Mae'r brif lein rhwng Amwythig a Henffordd (ac ymlaen i Gaerdydd a'r lein arall trwy Dref-y-clawdd (erbyn hyn Lein Calon Cymru), yn dal i fodoli.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ matsmith.info/TDS.pdf Cynllun Tref Craven Arms