Trefesgob, Swydd Amwythig

Tref farchnad fechan a phlwyf sifil yn sir seremonïol Swydd Amwythig, Gorllewin Canolbarth Lloegr, ydy Trefesgob (Saesneg: Bishop's Castle).[1] Fe'i lleolir yn awdurdod unedol Swydd Amwythig. Saif tua 1.5 milltir (2.4 km) i'r dwyrain o'r ffin rhwng Cymru a Lloegr. I'r de mae pentref Clun ac i'r dwyrain mae Church Stretton.

Trefesgob
Mathtref, plwyf sifil, tref farchnad Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolSwydd Amwythig
Daearyddiaeth
SirSwydd Amwythig
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau52.493°N 2.9978°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE04011223 Edit this on Wikidata
Cod OSSO323887 Edit this on Wikidata
Cod postSY9 Edit this on Wikidata
Map

Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 1,893.[2]

Tardd yr enw o gastell mwnt a beili a godwyd yma yn 1087 gan Esgob Henffordd i amddiffyn y dre rhag y Cymry cyfagos.

Ceir dau fragdy bychan yma a Gŵyl Gwrw a gynhelir yn flynyddol yn niwedd Medi.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. British Place Names; adalwyd 27 Medi 2020
  2. City Population; adalwyd 12 Ebrill 2021
  Eginyn erthygl sydd uchod am Swydd Amwythig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato