Gorsaf reilffordd James Street Lerpwl

Mae gorsaf reilffordd James Street Lerpwl (Saesneg: Liverpool James Street) yn orsaf danddaearol ar rwydwaith Merseyrail, ynghanol Lerpwl.

Gorsaf reilffordd James Street Lerpwl
Mathgorsaf reilffordd Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol1886 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadLerpwl Edit this on Wikidata
SirDinas Lerpwl Edit this on Wikidata
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau53.4048°N 2.9919°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ341902 Edit this on Wikidata
Rheilffordd
Côd yr orsafLVJ Edit this on Wikidata
Rheolir ganMerseyrail Edit this on Wikidata
Map
PerchnogaethNetwork Rail Edit this on Wikidata

Agorodd yr orsaf ar 1 Chwefror 1886.

Gwasanaethau

golygu

Mae pob trên sy'n gwasanaethu'r orsaf yn cael ei weithredu gan Merseyrail. Mae trenau'n gweithredu bob pum munud o amgylch dolen canol dinas Lerpwl i Moorfields, Lime Street Lerpwl a Lerpwl Canolog. I'r cyfeiriad arall, mae trenau'n gweithredu bob pum munud i Sgwâr Hamilton Penbedw, ac oddi yno maen nhw'n parhau bob 15 munud i bob un o New Brighton a West Kirby gyda chwe thrên yr awr i Hooton. O Hooton, mae trenau'n parhau bob 15 munud i Gaer a phob 30 munud i Ellesmere Port. Ar adegau eraill, mae trenau'n gweithredu bob 30 munud i bob un o'r pedwar cyrchfan, gan roi gwasanaeth bob 5–10 munud i Sgwâr Hamilton Penbedw.

  Eginyn erthygl sydd uchod am orsaf reilffordd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.