Gorsaf reilffordd Caer
Mae gorsaf reilffordd Caer (Saesneg: Chester railway station) yn orsaf reilffordd yn ninas Caer, Lloegr. Mae'n cael ei gweithredu ar hyn o bryd gan Trafnidiaeth Cymru, er bod Merseyrail, Northern Rail a Virgin Trains hefyd yn rhedeg gwasanaethau o'r orsaf. Fe'i lleolwyd i'r gogledd-ddwyrain o ganol y ddinas. O 1875-1969 roedd yr orsaf yn cael ei hadnabod fel "Gorsaf Caer Gyffredinol", i'w gwahaniaethu efo Northgate, Caer.
Math | gorsaf reilffordd |
---|---|
Enwyd ar ôl | Caer |
Agoriad swyddogol | 1848 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gorllewin Swydd Gaer a Chaer |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 53.1968°N 2.8798°W |
Cod OS | SJ413669 |
Rheilffordd | |
Nifer y platfformau | 7 |
Côd yr orsaf | CTR |
Rheolir gan | Trenau Arriva Cymru, KeolisAmey Cymru |
Perchnogaeth | Network Rail |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II* |
Manylion | |
A
Hanes
golyguDechreuodd gwaith adeiladu Gorsaf reilffordd Caer ar 22 Ionawr 1847.
Agorodd yr orsaf ar 1 Awst 1848. Agorodd Rheilffordd Caer a Chaergybi hyd at Fangor, a Rheilffordd Amwythig – Caer yn yr un flwyddyn.[1]. Cynllunwyd yr orsaf gan Francis Thompson, efo un platfform 1000 lath o hyd ar gyfer trenau yn y 2 gyfeiriad. Adeiladwyd yr orsaf gan Thomas Brassey. Cariwyd bron miliwn a hanner o deithwyr ym 1858, a chyrraeddodd tua 100 o drenau'n ddyddiol erbyn 1855. Erbyn yr 1860au, rhanwyd perchnogaeth yr orsaf rhwng Rheilffordd y Great Western a Rheilffordd Llundain a Gogledd Orllewin. Ehangwyd yr orsaf yn y 1890au, efo 2 blatfform ychwanegol.[2]
Caewyd Gorsaf Reilffordd Chester (Northgate) ym mis Hydref 1969, a trosglwyddodd gwasanaethau i Chester (Cyffredinol),[3] a chollodd yr orsaf yr enw 'Cyffredinol'.. Defnyddiwyd Northgate gan trenau o Fanceinion a Phont Penarlâg.
Mae'r orsaf yn adeilad rhestredig Gradd II.[4]
Gwasanaethau
golyguMae platfform 3 yn derbyn:
- 1 gwasanaeth Trafnidiaeth Cymru yr awr i Landudno trwy Cyffordd Llandudno.
- 1 gwasanaeth Trafnidiaeth Cymru yr awr i Gaergybi trwy Bangor.
- Y Gerallt Gymro, gwasanaeth beunyddiol (dydd Llun i ddydd Gwener) Trafnidiaeth Cymru yn gwneud stopiau cyfyngedig i Gaergybi. Locomotif clàs 67 a cherbydau.
- Gwasanaethau eilltuol Avanti West Coast yn teithio ymlaen i Fangor a Chaergybi, a chwasanaeth beunyddiol (dLl i dGw) yn teithio ymlaen i Wrecsam Cyffredinol.
- Gwasanaethau achlysurol Avanti West Coast o Gryw yn terfynu yng Nghaer neu deithio ymlaen i Gaergybi neu Fangor. Unyn disel-electrig clàs 221.
Mae platfform 4 yn derbyn:
- 1 gwasanaeth Avanti West Coast yr awr i Lundain Euston trwy Cryw Milton Keynes Canolog. Unyn disel-electrig clàs 221.
- 1 gwasanaeth Trafnidiaeth Cymru yr awr i Amwythig trwy Wrecsam Cyffredinol yn teithio ail tra ail ymlaen i:
- Gaerdydd Canolog; neu
- Firmingham Rhyngwladol. Unyn disel clàs 158.
- 1 gwasanaeth Trafnidiaeth Cymru yr awr i Maes awyr Manceinion trwy Earlestown.
- 1 gwasanaeth gwennol Trafnidiaeth Cymru yr awr i Gryw. Unyd disel clàs Super Sprinter.
- 1 gwasanaeth Trafnidiaeth Cymru yr awr i Lerpwl Heol Galch trwy Runcorn.
- Y Gerallt Gymro, gwasanaeth beunyddiol (dydd Llun i ddydd Gwener) Trafnidiaeth Cymru yn gwneud stopiau cyfyngedig i Gaerdydd Canolog. Locomotif clàs 67 a cherbydau.
- Gwasanaethau achlysurol Avanti West Coast i Gryw wedi dechrau yng Nghaer, Caergybi neu Fangor. Unyn disel-electrig clàs 221.
Mae platfformau 5/6 yn derbyn:
- 1 gwasanaeth Trenau Gogleddol yr awr ar y Linell Canol Swydd Gaer i Stockport a Manceinion Piccadilly trwy Northwich. Gweithredir hanner wasanaeth ar ddyddiau Sul. Unyn disel clàs 150.
- 1 gwasanaeth Trenau Gogleddol i Leeds trwy Earlestown, Manceinion Victoria a Bradford Interchange. Dim wasanaeth ar ddydd Sul. Unyn disel clàsys Pacer a Sprinter.
Mae platfform 7 yn derbyn:
- 4 gwasanaethau y rheilffordd metropolitan Lerpwl Merseyrail yr awr i'r ddolen Lerpwl Canolog. Cyfnosau a thyddiau Sul 2 trenau'r awr. Unyn electrig clàsys 507 a 508.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan chesterwallsinfo
- ↑ Gwefan british-history
- ↑ pdf Milleniumgreenway
- ↑ Gwefan historicengland
Dolenni allanol
golygu- Gwefan National Rail
- Gwefan Merseyrail
- Gwefan Trafnidiaeth Cymru Archifwyd 2019-11-11 yn y Peiriant Wayback
- Gwefan Trenau Virgin Archifwyd 2016-04-12 yn y Peiriant Wayback