Gorsaf reilffordd Lime Street Lerpwl
Mae gorsaf reilffordd Lime Street Lerpwl (Saesneg: Liverpool Lime Street railway station) yn orsaf reilffordd yn ninas Lerpwl yng Nglannau Merswy, Gogledd-orllewin Lloegr. Mae'r orsaf yn cysylltu Lerpwl gyda gweddill Lloegr a'r Alban. Mae trenau trydanol yn mynd o Lerpwl i Birmingham a Llundain ers 1 Ionawr 1962[1]. Cwblhawyd trydaneiddio'r rheilffordd rhwng Lerpwl a Manceinion ym Mai 2015. Mae gwasanaethau lleol yn cysylltu'r orsaf a Warrington, Preston a Wigan. Mae Trafnidiaeth Cymru yn gyfrifol am wasanaethau rhwng Lerpwl, Caer a Wrecsam trwy Runcorn ers 19eg Mai 2019.[2]
Math | gorsaf reilffordd, adeiladwaith pensaernïol, gorsaf pengaead |
---|---|
Agoriad swyddogol | 15 Awst 1836 |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Lerpwl |
Sir | Dinas Lerpwl |
Gwlad | Lloegr |
Uwch y môr | 34 metr |
Cyfesurynnau | 53.40716°N 2.977316°W |
Cod OS | SJ351905 |
Rheilffordd | |
Nifer y platfformau | 9 |
Côd yr orsaf | LIV |
Rheolir gan | Network Rail, Merseyrail |
Perchnogaeth | Network Rail |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II |
Manylion | |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Cadwallader & Jenkins 2010, t. 56
- ↑ "Gwefan Trafnidiaeth Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-11-11. Cyrchwyd 2019-11-11.