Gorsaf reilffordd Parc Ninian
Mae Gorsaf reilffordd Parc Ninian (Saesneg: Ninian Park railway station) yn orsaf reilffordd sydd yn gwasaneauthu ardaloedd Lecwydd a De Treganna yng Nghaerdydd, Cymru. Mae gwasanaethau teithwyr yn cael ei darparu gan Trafnidiaeth Cymru.
Math | gorsaf reilffordd |
---|---|
Agoriad swyddogol | 1939 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Caerdydd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.4764°N 3.2011°W |
Cod OS | ST166759 |
Nifer y platfformau | 2 |
Côd yr orsaf | NNP |
Rheolir gan | Trenau Arriva Cymru |
Cafodd yr orsaf, sydd wedi ei leoli 1.6 km (0.99 milltir) i'r gorllewin o ganol dinas Gaerdydd, ei hagor pan ail-agorwyd Llinell y Ddinas i wasanaethau teithwyr ym 1987, gan ddefnyddio llwyfannau a ddefnyddiwyd yn flaenorol yn unig ar gyfer trenau arbennig yn rhedeg mewn cysylltiad â gemau pêl-droed. Am y rheswm hwn mae gan yr orsaf y llwyfannau hiraf ar y lein, lle i hyd at naw coets, yn hytrach na dau ar y tair orsaf arall a agorwyd ar yr un pryd.