Gorsaf reilffordd Tref Glyn Ebwy
Mae gorsaf reilffordd Tref Glyn Ebwy (Saesneg: Ebbw Vale Town) yn un o ddwy orsaf reilffordd sy'n gwasanaethu tref Glyn Ebwy ym Mlaenau Gwent, Cymru. Mae ar Rheilffordd Cwm Ebwy.
Math | gorsaf reilffordd |
---|---|
Enwyd ar ôl | Glynebwy |
Agoriad swyddogol | 17 Mai 2015 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Glynebwy |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.776°N 3.202°W |
Cod OS | SO168099 |
Rheilffordd | |
Côd yr orsaf | EBB |
Rheolir gan | Trenau Arriva Cymru |
Agorwyd yr orsaf ar y 17 Mai 2015[1] pan ddechreuodd gwasanaethau i Gaerdydd Canolog ac yn ôl ar ôl 46 mlynedd o fod yn llinell cludo nwyddau yn unig. Mae cynlluniau'r dyfodol yn cynnwys gwasanaethau bob awr i Gasnewydd.
Cynllunio ac agor
golyguYn Strategaeth Defnyddio Llwybrau Network Rail, 2008, nodwyd y bwriad i greu cysylltiad rhwng Glyn Ebwy a Chasnewydd i'w weithredu yn y cyfnod 2009-2018. Ym mis Mai 2013, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai llinell Glyn Ebwy yn cael ei hymestyn o'r derfynfa dros dro yn Mharcffordd Glyn Ebwy i'r orsaf newydd yn Nhref Glyn Ebwy. Cytunwyd ar gyfanswm o £11.5 miliwn i ariannu'r orsaf, estyniad llinell a thirlunio cysylltiedig ar gyfer yr ardal gyfagos. Bythefnos yn ddiweddarach, cytunwyd ar gyllid hefyd ar gyfer Gorsaf reilffordd Pye Corner, ar y llinell.[2][3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/32756487
- ↑ "£11.5m for train station in Ebbw Vale town centre". South Wales Argus. 7 May 2013. Cyrchwyd 22 June 2013.
- ↑ "SEWTA Welcomes £15M Ebbw Valley Line Investment". SEWTA. 17 May 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 August 2013. Cyrchwyd 22 June 2013.