Cylch o lenorion, athronwyr, ac arlunwyr Seisnig a flodeuai yn y cyfnod 1907–30 oedd Grŵp Bloomsbury.

Grŵp Bloomsbury
Enghraifft o'r canlynolgrŵp o bobl, symudiad celf Edit this on Wikidata
Lleoliad yr archifE.J. Pratt Library Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Aeth y mwyafrif o aelodau'r grŵp i golegau'r Drindod a'r Brenin ym Mhrifysgol Caergrawnt yn nechrau'r 1900au. Bu nifer ohonynt – gan gynnwys yr awduron E. M. Forster, Lytton Strachey, a Leonard Woolf, yr economegydd John Maynard Keynes, y beirniad llenyddol Desmond MacCarthy a'r beirniad celf Roger Fry – yn aelodau cymdeithas gudd yr "Apostles", a sefydlwyd yng Nghaergrawnt yn y 1820au gan J. F. D. Maurice a John Sterling. Prif aelodau eraill y grŵp oedd yr awduron Virginia Woolf a Mary MacCarthy a'r arlunwyr Vanessa Bell a'r arlunydd Duncan Grant. Ar gyrion y grŵp graidd oedd y Dwyreinydd Arthur Waley, y deallusyn Saxon Sydney-Turner, y bardd R. C. Trevelyan, y beirniad llenyddol Francis Birrell, y clasurydd J. T. Sheppard, y beirniad celf a llenyddol Raymond Mortimer, a'r cerflunydd Stephen Tomlin. Yn gysylltiedig â Grŵp Bloomsbury hefyd roedd nifer o feddylwyr ac artistiaid adnabyddus, yn eu plith yr athronydd Bertrand Russell, yr awdur Aldous Huxley, y bardd T. S. Eliot, a'r economegydd Gerald Shove.

Priodolir cyfarfodydd cyntaf y grŵp i Thoby Stephen, a gyflwynodd ei gyfeillion yng Nghaergrawnt i'w chwiorydd Vanessa a Virginia a'i frawd Adrian. Priododd Vanessa Stephen â Clive Bell ym 1907, a Virginia Stephen â Leonard Woolf ym 1912. Buont yn cwrdd yn aml yn nhai'r Bells a'r Stephens yn ardal Bloomsbury yn Llundain ac yn cynnal dadleuon ar bynciau estheteg, athroniaeth, celf a llenyddiaeth, a dylanwadwyd yn gryf arnynt gan waith G. E. Moore, A. N. Whitehead, a Bertrand Russell.

Parhaodd Grŵp Bloomsbury trwy gydol y Rhyfel Byd Cyntaf a'r 1920au, ond erbyn dechrau'r 1930au ymgyfunai â chylchoedd deallusol cyffredin Llundain, Rhydychen, a Chaergrawnt.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Bloomsbury group. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 1 Tachwedd 2020.