Agor y brif ddewislen

Flavius Gratianus Augustus (Ebrill neu Mai 35925 Awst 383) oedd ymerawdwr Rhufain yn y gorllewin rhwng 375 a 383.

Gratianus
Gratian Solidus.jpg
Ganwyd 18 Ebrill 0359 Edit this on Wikidata
Sirmium Edit this on Wikidata
Bu farw 25 Awst 0383 Edit this on Wikidata (24 oed)
Lyon Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Rhufain hynafol, Yr Ymerodraeth Fysantaidd Edit this on Wikidata
Galwedigaeth gwleidydd, person milwrol Edit this on Wikidata
Swydd ymerawdwr Rhufain, Ancient Roman senator, consul of the Roman Empire, Byzantine emperor Edit this on Wikidata
Tad Valentinian I Edit this on Wikidata
Mam Marina Severa Edit this on Wikidata
Priod Flavia Maxima Constantia Edit this on Wikidata
Llinach Valentinian dynasty Edit this on Wikidata

Roedd yn fab yr ymerawdwr Valentinian I a'i wraig gyntaf Marina Severa, a ganed ef yn ninas Sirmium (Sremska Mitrovica heddiw), yn nhalaith Pannonia.

Ar y 4 Awst 367 cyhoeddwyd ef yn "Augustus" gan ei dad. Ar farwolaeth ei dad ar 17 Tachwedd 375, cyhoeddodd y llengoedd yn Pannonnia ei hanner brawd iau, Valentinian II, yn ymerawdwr, er nad oedd ond baban. Cymerodd Gratianus daleithiau Gâl a rhoddodd Italia, Iliria ac Affrica i Valentinian a'i fam i'w rheoli o Milan. Mewn enw yn unig oedd hyn, mewn gwirionedd Gratianus oedd y meistr.

Rheolid yr ymerodraeth yn y dwyrain gan ei ewythr Valens. Ym mis Mai 378 enillodd Gratianus fuddugoliaeth fawr dros lwyth Almaenaidd yn mrwydr Argentovaria, gerllaw Colmar heddiw. Yr un flwyddyn lladdwyd Valens ym mrwydr Mrwydr Adrianopolis ar 9 Awst. Gadwawodd hyn yr ymerodraeth i gyd yn nwylo Gratianus. Penododd y cadfridog Hispanaidd Flavius Theodosius fel ymerawdwr yn y dwyrain.

Am rai blynyddoedd teyrnasodd Gratianus yn llwyddiannus ond yn raddol aeth i ddiogi a rhoi ei egni i ddadleuon crefyddol a gwleidyddol. Daeth y cadfridog Ffrancaidd Merobaudes ac esgob Milan Ambrosius i gael dylanwad mawr drosto. Gwrthododd Gratianus deitlau paganaidd traddodiadol ymerawdwr Rhufain megis Pontifex Maximus a cafodd wared ar Allor Buddugoliaeth o Senedd Rhufain. Yn ystod ei deyrnasiad daeth Cristionogaeth yn brif grefydd pob rhan o'r ymerodraeth, a gwnaeth seremoniau paganaidd yn anghyfreithlon yn Rhufain.

Daeth Gratianus yn amhoblogaidd ymysg y fyddin trwy gymeryd corff o Alaniaid i'w wasanaeth personol ac ymddangos ei hun mewn gwisg rhyfelwr. Gwrthryfelodd y cadfridog Magnus Maximus (Macsen Wledig) a daeth a byddin fawr o Brydain i Gâl. Roedd Gratianus yn ei ddisgwyl ym Mharis, ond bradychwyd ef gan lywodraethwr y ddinas a'i ladd ar y 25 Awst 383.

Rhagflaenydd:
Valentinian I a Valens
Ymerodron Rhufain
4 Awst 37525 Awst 383
gyda Valens (375–378)
Valentinian II (375–383)
Theodosius I (379–383)
Olynydd:
Valentinian II a Theodosius I