Valentinian I
Flavius Valentinianus (321 – 17 Tachwedd 375), mwy adnabyddus fel Valentinian I, oedd ymerawdwr Rhufain yn y gorllwein o 364 hyd 375.
Valentinian I | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd |
3 Gorffennaf 0321 ![]() Pannonia Secunda ![]() |
Bu farw |
17 Tachwedd 0375 ![]() Achos: gwaedlif ar yr ymennydd ![]() Brigetio ![]() |
Dinasyddiaeth |
Rhufain hynafol, Yr Ymerodraeth Fysantaidd ![]() |
Galwedigaeth |
gwleidydd ![]() |
Swydd |
ymerawdwr Rhufain, Ancient Roman senator, Byzantine emperor ![]() |
Tad |
Gratian ![]() |
Priod |
Marina Severa, Justina ![]() |
Plant |
Galla, Gratianus, Valentinian II, Grata ![]() |
Llinach |
Valentinian dynasty ![]() |
Ganed Valentinian yn Cibalis yn nhalaith Pannonia. Ymunodd a’r fyddin a daeth yn swyddog yn y gard, gan godi i safle uchel yn ystod teyrnasid Julian a Jovian trwy ei ddewrder a’i allu milwrol. Cyhoeddwyd ef yn ymerawdwr gan y fyddin wedi marw Jovian. Roedd yn 44 oed pan ddaeth yn ymerawdwr ar 28 Chwefror 364. Yn fuan wedyn penododd ei frawd Valens fel cyd-ymerawdwr.
Daeth y ddau frawd i gytundeb yn Naissus (Nissa) i rannu’r ymerodraeth rhyngddynt, gyda Valentinian yn cymryd Italia, Iliria, Hispania, Gal, Prydain ac Africa.
Yn ystod teyrnasiad Valentinian bu rhyfeloedd yn Affrica, ar ffin Afon Rhein ac ym Mhrydain. Daeth y Rhufeiniaid i wrthdrawiad a phobloedd nad oedd son amdanynt cynt, y Bwrgwndiaid, y Sajones a’r Alamanes.. Bu hefyd ymgais gan Procopius, perthynas i Julian, i’w sefydlu ei hun fel ymerawdwr, ond llwyddodd Valens i’w orchfygu yn 366. Roedd rhaid i’r ymerawdwr warchod y ffiniau yn barhaus, a bu’n defnyddio Milan fel canolfan, ac yn ddiweddarach Paris a Rheims. Llwyddodd i orchfygu’r llwythi Almaenaidd a’u gyrru o ochr orllewinol Afon Rhein. Ymosodasant ar draws y Rhein eto a chipio Moguntiacum (Maguntia), ond gallodd Valentinian eu gorchfygu yn Solicinium.
Roedd hefyd yn gorfod delio ag ymosodiadau gan y Sacsoniaid, y Pictiaid a’r Sgotiaid ar dalaith Prydain. Yn 368 gyrrodd Theodosius i ddelio a’r perygl.
Yn 374 croesodd llwyth y Quados dros Afon Donaw a meddiannu rhan o Pannonia. Yn Ebrill y flwyddyn wedyn cyrhaeddodd yr ymerawdwr i’r ardal gyda byddin niferus. Bu cyfarfod rhyngddo ef a dirprwyon y Quados yn Brigetio, ond aeth yn helynt a tharawyd yr ymerawdwr are i ben. Bu farw o’r anaf ar 17 Tachwedd.
O'i flaen : Jovian |
Ymerodron Rhufain Valentinian I gyda Valens |
Olynydd : Valens, Gratianus a Valentinian II |