Gredifael

Sant o Gymro; fl. 6g. Fe'i cysylltir ag Eglwys Gredifael ar Ynys Môn.

Sant o Gymro oedd Gredifael (fl. 6g). Fe'i cysylltir ag Eglwys Gredifael ar Ynys Môn. Dethlir ei ddydd gŵyl ar 13 Tachwedd, yn flynyddol.

Gredifael
Ganwyd580 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethmynach Edit this on Wikidata
Blodeuodd6 g Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl13 Tachwedd Edit this on Wikidata
TadIthel Hael Edit this on Wikidata
Eglwys Gredifael a enwyd ar ôl y sant

Hanes a thraddodiad golygu

Roedd yn fab i Ithel Hael yn ôl un traddodiad. Treuliodd gyfnod yn Hendy-gwyn ar Daf, clas gynnar a chanolfan eglwysig yn ne-orllewin Cymru.

Ei unig sefydliad yw Eglwys Gredifael, Penmynydd, Môn; enw arall ar y pentref oedd Llanredifael. Yn llan yr eglwys ceir Bedd Gredifael a chredid bod cysgu ar y maen yn iacháu'r claf. Gerllaw yr eglwys ceir Ffynnon Redifael mewn llecyn o'r enw Cae Gredifael. Fel yn achos nifer o ffynhonnau eraill yn y wlad roedd hon yn gysylltiedig â iacháu dafadennau trwy eu pigo â phin a'i thaflu i'r ffynnon wedyn.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. Francis Jones, The Holy Wells of Wales (Caerdydd, 1954). Tud. 142.