Griffith Davies

Mathemategwr o Gymro

Mathemategwr ac actiwari o Gymru oedd Griffith Davies (5 Rhagfyr 178821 Mawrth 1855[1]. Roedd yn fab i Owen Dafydd a Mary Williams.

Griffith Davies
Ganwyd5 Rhagfyr 1788 Edit this on Wikidata
Llandwrog Edit this on Wikidata
Bu farw25 Mawrth 1855 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethactiwari Edit this on Wikidata
PlantSarah Dew, Griffith Davies Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd y Gymdeithas Frenhinol Edit this on Wikidata

Cefndir

golygu

Cafodd ei eni yn y Ty Croes, Llandwrog. Oherwydd yr amgylchiadau gwasgedig yn niwedd y 18g roedd rhaid iddo fynd i weithio yn gynnar, gyda ffermwyr i ddechrau, ac yn chwarel y Cilgwyn wedi hynny. Ar ôl ennill tipyn o arian fe aeth am dymor i ysgol Evan Richardson yng Nghaernarfon. Yn 1809 aeth i Lundain i wella ei Saesneg a Mathemateg. Aeth ati wedyn i agor ysgol i ddysgu mathemateg ac pynciau eraill. Mi wnaeth ef cyhoeddi llyfr "A Key to Bonnycastle's Trigonometry". Mae yna tystiolaeth i awgrymu fod Telford wedi gwneud camgymeriadau wrth gynllunio Pont y Borth dros afon Menai a bod Griffith Davies wedi ailwneud llawer o'r cyfrifiadau.

Bu farw yn 1855 a claddwyd ef ar 27 o Fawrth yng nghladdfa Abney Park, Llundain.

 
Cofeb Griffith Davies

Ffynonellau

golygu
  • Llsgrau. awdurol yng Ngholeg Bangor, a rhestrau plwyf Llandwrog;
  • Ll. G. Chambers, ‘Griffith Davies (1788-1855) F.R.S. Actuary‘, Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 1988;
  • Transactions of the Royal Society for the Encouragement of Arts, Manufacture and Commerce, 38 (1820);
  • Proceedings of the Royal Society. (1831);
  • llyfrgell yr Inst. of Actuaries;
  • papurau yn Ll. G. C., Coleg Bangor a swyddfa Guardian Royal Exchange Assurance, Llundain.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gweler y gyfres Gwyddonwyr Cymru - Scientists of Wales GPC gan Haydn Edwards)