Guildhall, Abertawe

neuadd dinas rhestredig Gradd I yn Uplands

Mae'r Guildhall yn un o brif adeiladau lle mae swyddfeydd cyngor Dinas a Sir Abertawe.

Guildhall, Abertawe
Mathneuadd y dref Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1934 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadUplands Edit this on Wikidata
SirAbertawe, Uplands Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr7 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.614°N 3.96042°W Edit this on Wikidata
Map
PerchnogaethCyngor Dinas a Sir Abertawe Edit this on Wikidata
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd I, Henebion Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Manylion

Cyn i lywodraeth leol gael ei ad-drefnu ym 1996, dyma oedd pencadlys yr hen Gyngor Dinas Abertawe. Mae adeilad y Guildhall yn cynnwys Neuadd y Ddinas, Neuadd Brangwyn a Llysoedd Barn Sirol Abertawe. Bellach, lleolir Llys y Goron Abertawe mewn adeilad gyferbyn â'r Guildhall.

Cynlluniwyd yr adeilad gan y pensaer Syr Percy Thomas a chafodd ei adeiladu ar hyn a arferai fod yn Barc Fictoria. Dechreuwyd ar y broses adeiladu ym 1930 a chafodd ei gwblhau ym 1934, gan agor ar y 23ain o Hydref y flwyddyn honno. Ar y pryd, roedd yr adeilad yn ddadleuol, am ei fod yn cynrychioli pensaernïaeth fodern y cyfnod.

Cwblhawyd yr adeilad mewn carreg Portland wen a cheir tŵr cloc art deco ynddo, gan wneud yr adeilad yn un o dirnodau mwyaf adnabyddus Abertawe. Mae rhan o dŵr y cloc yn arddangos llong hir y Llychlynwyr, fel atgof o Sweyn Forkbeard a sylfaenwyr Llychlynaidd y ddinas.

Gweler hefyd

golygu

Dolenni allanol

golygu