Gwacâd gogledd Llain Gaza
Ar 13 Hydref 2023, chwe diwrnod wedi dechrau Rhyfel Gaza, gorchmynnodd Lluoedd Amddiffyn Israel (IDF) wacâd y rhan o Lain Gaza i ogledd Wadi Gaza, gan gynnwys Dinas Gaza, gan gyfarwyddo sifiliaid i symud i dde'r llain ymhen 24 awr. Cychwynnodd allfudiad ar raddfa enfawr o drigolion Palesteinaidd, ac erbyn 14 Hydref symudodd cannoedd o filoedd ohonynt tua'r de. Mae disgwyl i Israel oresgyn y diriogaeth fel rhan o'r rhyfel yn erbyn Hamas, sy'n rheoli Llain Gaza.
Map o Lain Gaza gyda'r llinell wacâd ar hyd Wadi Gaza yn ddu. | |
Enghraifft o'r canlynol | trosglwyddo poblogaeth, evacuation |
---|---|
Dyddiad | Hydref 2023 |
Rhan o | Rhyfel Gaza |
Dechreuwyd | 13 Hydref 2023 |
Lleoliad | Llain Gaza |
Gwladwriaeth | Gwladwriaeth Palesteina |
Mae gan Lain Gaza ddwysedd poblogaeth uchel, a thrigiannodd mwy nag un filiwn o bobl yn y gogledd—rhyw hanner o gyfanswm poblogaeth y llain—ar ddechrau'r rhyfel. Yn y dyddiau cyn y gorchymyn, bu farw 1,800 o bobl yn Llain Gaza o ganlyniad i ymgyrch fomio Israel, ac yn ôl y Cenhedloedd Unedig cafodd mwy na 423,000 o drigolion Gaza eu dadleoli'n fewnol yn barod. Gollyngodd yr IDF daflenni o'r awyr ar Ddinas Gaza yn cyfarwyddo sifiliaid i "ymadael i'r de er diogelwch eich hunain a diogelwch eich teuluoedd" ac i "ymddieithrio'ch hunain oddi wrth derfysgwyr Hamas sy'n defnyddio chi fel tarianau dynol". Ffoes yr ymadawyr mewn ceir, bysiau bychain a chertiau mulod, ac ar gerdded, er gwaetha'r prinder tanwydd o ganlyniad i warchae Israel ar Lain Gaza, a ffyrdd a ddinistriwyd gan fomiau'r IDF.[1][2]
Câi'r gorchymyn ei gondemnio gan nifer fel "dadleoli gorfodol" a'r ddiboblogaeth ei galw'n "ail Nakba" gan Mahmoud Abbas, Arlywydd Gwladwriaeth Palesteina. Mynegai Stéphane Dujarric, llefarydd o'r Cenhedloedd Unedig, bryder bod y fath ymadawiad yn "amhosib heb ganlyniadau dyngarol dinistriol". Er gwaetha'r bygythiad, erfynai gweinyddiaeth gartref Llain Gaza ar bobl i aros yn y fan. Cyhuddwyd Hamas gan John Kirby, llefarydd ar ran Cyngor Diogelwch Cenedlaethol yr Unol Daleithiau, o "godi rhwystrau ar y ffyrdd i atal pobl rhag dianc".[1]
Ymosodiadau golygu
Er i Israel annog i bobl ymadael er diogelwch eu hunain, cafodd cerbydau a oedd yn cludo sifiliaid ar hyd ffordd Salah-a-Din, un o'r ddau lwybr tua'r de, eu bomio gan yr IDF yn hwyr y prynhawn ar 13 Hydref. Yn ôl gweinyddiaeth iechyd Palesteina, lladdwyd 70 o bobl yn y cyrch awyr.[3]
Cyfeiriadau golygu
- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) John Reed, Mehul Srivastava a Mai Khaled, "Residents flee Gaza City as Israel tells 1.1mn to leave", Financial Times (13 Hydref 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 14 Hydref2023.
- ↑ (Saesneg) Heba Saleh, Mai Khaled ac Henry Foy, "‘The worst day’: Israeli warning prompts Palestinian exodus from north Gaza", Financial Times (13 Hydref 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 13 Hydref 2023.
- ↑ (Saesneg) "Strike on civilian convoy fleeing Gaza: What we know from verified video", BBC (15 Hydref 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 15 Hydref 2023.