Goresgyniad Llain Gaza gan Israel (2023‒24)

ymgais Israel i feddianu Llain Gaza a lladd miloedd o Balesteiniaid

Ar 27 Hydref 2023, lansiodd Israel goresgyniad ar raddfa fawr[1][2] o Lain Gaza, fel rhan o Ryfel Gaza, gyda'r amcanion honedig o chwalu Hamas, rhyddhau gwystlon, ac ennill rheolaeth dros y Llain.[3][4] Daeth y goresgyniad yn sgil ymosodiad ar Israel gan Hamas ar 7 Hydref 2023. Ymatebodd Israel drwy ddatgan rhyfel, cryfhau ei blocâd ar Gaza, gorchymyn gwacâd yng ngogledd y Llain, a lansio "Ymgyrch Cleddyfau Haearn".

Goresgyniad Llain Gaza gan Israel
     Llain Gaza

     Ardaloedd o Israel a wacawyd      Ardaloedd o Lain Gaza a oresgynnwyd gan Israel

  Ardaloedd o Israel a ymosodwyd gan Hamas ar 7 Hydref 2023
  Ardaloedd o Lain Gaza a orchmynnwyd i'w wacáu gan Israel
Enghraifft o'r canlynolgoresgyniad Edit this on Wikidata
Dyddiad2023 Edit this on Wikidata
Lladdwyd25,900, 30,275, 12,000, 21,052 Edit this on Wikidata
Rhan oRhyfel Gaza Edit this on Wikidata
DechreuwydHydref 2023 Edit this on Wikidata
LleoliadLlain Gaza Edit this on Wikidata
Yn cynnwysy cyrch ar Ddinas Gaza, Brwydr Beit Hanoun Edit this on Wikidata
Map
GwladwriaethGwladwriaeth Palesteina Edit this on Wikidata

Lladdwyd uwch na 28,000 o Balesteiniaid yn Gaza ers cychwyn yr ymgyrch Israelaidd,[5] gan gynnwys dros 10,000 o blant[6] a 7,000 o fenywod,[7] ac mae rhyw 7,000 o bobl eraill ar goll, a thybir eu bod yn farw, o dan adfeilion yr adeiladau a ddinistriwyd.[8][7] Erbyn canol Rhagfyr, gollyngodd Israel mwy na 29,000 o ffrwydron rhyfel ar Gaza, gan ddifrodi neu ddinistrio'n llwyr 70 y cant o gartrefi yn y Llain.[9] Yn ôl nifer o arbenigwyr, mae goresgyniad Gaza gan Israel yn un o'r ymgyrchoedd milwrol difetholaf mewn hanes diweddar yn nhermau maint a chyflymdra'r distryw.[10] Yn ystod y goresgyniad, dinistriodd Lluoedd Amddiffyn Israel o leiaf traean o'r holl gartrefi yn Gaza yn ogystal â channoedd o dirnodau diwylliannol, a chafodd degau o gladdfeydd yn y Llain eu halogi.

Datblyga argyfwng dyngarol difrifol o ganlyniad i'r goresgyniad, a wela gofal iechyd yn chwalu'n llwyr,[11] prinderau bwyd, dŵr glân, meddyginiaeth, a thanwydd oherwydd y blocâd,[12][13][14] toriadau trydan a diffyg cyfathrebu,[15] a'r Cenhedloedd Unedig yn rhybuddio bod newyn ar fin dechrau.[16] Mae lluoedd Israel wedi targedu ardaloedd y mae ynghynt wedi cyfarwyddo Palesteiniaid i lochesu, ac felly mae nifer o adroddiadau o'r Llain wedi datgan "nad oes yr un lle diogel yn Gaza".[17][18][19] Yn sgil y nifer fawr o farwolaethau sifiliaid, cyhuddwyd Israel ac Hamas fel ei gilydd o droseddau rhyfel.[20][21] Mae bron pob un o'r 2.3 miliwn o bobl yn Gaza wedi eu dadleoli'n fewnol[22] a dadleolwyd hefyd 250,000–500,000 o Israeliaid ar ochr draw'r ffin.[23][24][25] Caiff hefyd miloedd o Balesteiniaid eu caethiwo gan Israel,[26][27] a chyhoeddodd Israel bod dros 200 o'i milwyr wedi marw yn y Llain yn ystod y goresgyniad hyd at Chwefror 2024.[28]

Mewn ymateb i effeithiau'r goresgyniad, cychwynnodd llywodraeth De Affrica achos yn erbyn Israel yn y Llys Cyfiawnder Rhyngwladol (ICJ), gan gyhuddo Israel o hil-laddiad yn Llain Gaza, a galw ar yr ICJ i gyhoeddi mesurau amddiffyn dros dro.

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Josef Federman, "Has Israel invaded Gaza? The military has been vague, even if its objectives are clear", Associated Press (31 Hydref 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 23 Chwefror 2024.
  2. (Saesneg) Aaron Boxerman, "Israel Confirms Deaths of 15 Soldiers in Ground Invasion of Gaza", The New York Times (1 Tachwedd 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 2 Tachwedd 2023.
  3. (Saesneg) Natasha Turak, "Can Hamas actually be eliminated? This is what military and security analysts think", CNBC (12 Rhagfyr 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 7 Ionawr 2024.
  4. (Saesneg) Nidal Al-Mughrabi a Dan Williams, "Israel-Hamas truce in Gaza extended two days; 11 more hostages freed", Reuters (28 Tachwedd 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 28 Tachwedd 2023.
  5. (Saesneg) "Gaza death toll passes 28,000 as Israeli assault on Rafah looms", Euronews (10 Chwefror 2024). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 23 Chwefror 2024.
  6. (Saesneg) "Gaza: 10,000 Children Killed in Nearly 100 Days of War", Achub y Plant (11 Ionawr 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 23 Chwefror 2024.
  7. 7.0 7.1 (Arabeg) "الإعلام الحكومي بغزة يناشد العالم التدخل لوقف الكارثة الإنسانية بغزة اقرأ المزيد عبر المركز الفلسطيني للإعلام", Y Ganolfan Wybodaeth Balesteinaidd (8 Ionawr 2024). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 23 Chwefror 2024.
  8. (Saesneg) "Health Ministry In Hamas-run Gaza Says War Death Toll At 24,927", Barron's (20 Ionawr 2024). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 23 Chwefror 2024.
  9. (Saesneg) Jared Malsin a Saeed Shah, "The Ruined Landscape of Gaza After Nearly Three Months of Bombing", The Wall Street Journal (30 Rhagfyr 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 23 Ionawr 2024.
  10. (Saesneg) Julia Frankel, "Israel's military campaign in Gaza seen as among the most destructive in recent history, experts say", Associated Press (11 Ionawr 2024). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 22 Ionawr 2024.
  11. (Saesneg) "Fuel Enters Gaza; Telecommunications Partially Restored", Voice of America (17 Tachwedd 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 23 Chwefror 2024.
  12. (Saesneg) "'Barely a drop to drink': children in the Gaza Strip do not access 90 per cent of their normal water use", UNICEF (20 Rhagfyr 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 23 Chwefror 2024.
  13. (Saesneg) Rushdi Abu Alouf ac Oliver Slow, "Gaza 'soon without fuel, medicine and food' - Israel authorities", BBC (9 Hydref 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 9 Hydref 2023.
  14. (Saesneg) Laura Paddison a Rene Marsh, "Gazans forced to drink dirty, salty water as the fuel needed to run water systems runs out", CNN (24 Hydref 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 23 Chwefror 2024.
  15. (Saesneg) Wafaa Shurafa, Jack Jeffery a Lee Keath, "The UN stops delivery of food and supplies to Gaza as a communications blackout hinders coordination", Associated Press (18 Tachwedd 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 23 Chwefror 2024.
  16. (Saesneg) Emma Graham-Harrison, "UN warns of Gaza starvation as concerns rise about safety in the south", The Guardian (17 Tachwedd 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 22 Tachwedd 2023.
  17. (Saesneg) Robin Stein et al., "A Times Investigation Tracked Israel’s Use of One of Its Most Destructive Bombs in South Gaza", The New York Times (21 Rhagfyr 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 7 Chwefror 2024.
  18. (Saesneg) Yahya Abou-Ghazala, "In Gaza, Palestinians have no safe place from Israel’s bombs", CNN (12 Hydref 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 13 Hydref 2023.
  19. (Saesneg) Najib Jobain, Samy Magdy ac Elena Becatoros, "Israel continues bombarding Gaza, including places it told Palestinians to evacuate to", PBS (9 Rhagfyr 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 23 Chwefror 2024.
  20. (Saesneg) "Israel/occupied Palestinian territory: UN experts deplore attacks on civilians, call for truce and urge international community to address root causes of violence", Swyddfa Uchel Gomisiynydd y Cenhedloedd Unedig dros Hawliau Dynol (12 Hydref 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 13 Hydref 2023.
  21. (Saesneg) Mike Corder a Julia Frankel, "Experts say Hamas and Israel are committing war crimes in their fight", Associated Press (13 Hydref 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 17 Hydref 2023.
  22. (Saesneg) "Israel Widens Attack on Hamas; Palestinians Pour Into Southern Gaza", Voice of America (29 Rhagfyr 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 3 Ionawr 2024.
  23. (Saesneg) "Around Half A Million Israelis Displaced Inside Israel: Military", Barron's (16 Hydref 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 23 Chwefror 2024.
  24. (Saesneg) Yaakov Lappin, "250,000 Israelis displaced, bodies identified three weeks after mass murder", Israel Today (31 Hydref 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 23 Chwefror 2024.
  25. (Saesneg) "Israel allows return of residents in settlements 4 kilometers from Gaza border: Media reports", Anadolu Agency (21 Tachwedd 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 23 Chwefror 2024.
  26. (Saesneg) Isabel Debre a Wafaa Shurafa, "Urgently investigate inhumane treatment and enforced disappearance of Palestinians detainees from Gaza", Amnest Rhyngwladol (20 Rhagfyr 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 20 Rhagfyr 2023.
  27. (Saesneg) "Hungry, thirsty and humiliated: Israel’s mass arrest campaign sows fear in northern Gaza", Associated Press (14 Rhagfyr 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 15 Rhagfyr 2023.
  28. (Saesneg) "Swords of Iron: IDF Casualties", (21 Chwefror 2024). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 23 Chwefror 2024.