Gwacadau Llain Gaza
Yn ystod Rhyfel Gaza (2023‒24), gorchmynnodd Lluoedd Amddiffyn Israel (IDF) i'r mwyafrif helaeth o drigolion Llain Gaza adael eu cartrefi, gan ddadleoli cannoedd o filoedd o bobl a gwaethygu'r argyfwng dyngarol yn y diriogaeth.[1][2][3] Hwn ydy'r achos mwyaf o ddadleoli'r Palesteiniaid ers 75 mlynedd[4] (ym Mai 2024, amcangyfrifodd Swyddfa'r Cenhedloedd Unedig dros Gyd-drefnu Materion Dyngarol (UNOCHA) bod 78 y cant o holl Lain Gaza yn ddarostyngedig i orchmynion gwacâd gan Israel),[5] ac mae nifer ohonynt wedi disgrifio'r gwacadau fel "ail Nakba".[6]
Map o Lain Gaza gyda'r llinell wacâd ar hyd Wadi Gaza yn ddu, gan ddynodi'r gwacâd cychwynnol yn y gogledd. | |
Enghraifft o'r canlynol | trosglwyddo poblogaeth, evacuation |
---|---|
Dyddiad | Hydref 2023 |
Rhan o | evacuations during the Israel–Hamas war, Gaza genocide |
Dechreuwyd | 13 Hydref 2023 |
Lleoliad | Llain Gaza |
Gwladwriaeth | Gwladwriaeth Palesteina |
Cyhoeddwyd y gorchymyn cyntaf ar 13 Hydref 2023, chwe diwrnod wedi dechrau Rhyfel Gaza. Gorchmynnodd yr IDF wacâd y rhan o Lain Gaza i ogledd Wadi Gaza, gan gynnwys Dinas Gaza, gan gyfarwyddo sifiliaid i symud i dde'r llain ymhen 24 awr.[7] Cychwynnodd allfudiad ar raddfa enfawr o drigolion Palesteinaidd, ac erbyn 14 Hydref symudodd cannoedd o filoedd ohonynt tua'r de. Mae gan Lain Gaza ddwysedd poblogaeth uchel, a thrigiannodd mwy nag un filiwn o bobl yn y gogledd—rhyw hanner o gyfanswm poblogaeth y llain—ar ddechrau'r rhyfel. Yn y dyddiau cyn y gorchymyn, bu farw 1,800 o bobl yn Llain Gaza o ganlyniad i ymgyrch fomio Israel, ac yn ôl y Cenhedloedd Unedig cafodd mwy na 423,000 o drigolion Gaza eu dadleoli'n fewnol yn barod. Gollyngodd yr IDF daflenni o'r awyr ar Ddinas Gaza yn cyfarwyddo sifiliaid i "ymadael i'r de er diogelwch eich hunain a diogelwch eich teuluoedd" ac i "ymddieithrio'ch hunain oddi wrth derfysgwyr Hamas sy'n defnyddio chi fel tarianau dynol". Ffoes yr ymadawyr mewn ceir, bysiau bychain a chertiau mulod, ac ar gerdded, er gwaetha'r prinder tanwydd o ganlyniad i warchae Israel ar Lain Gaza, a ffyrdd a ddinistriwyd gan fomiau'r IDF.[8][9]
Câi'r gorchymyn ei gondemnio gan nifer fel "dadleoli gorfodol" a'r ddiboblogaeth ei galw'n "ail Nakba" gan Mahmoud Abbas, Arlywydd Gwladwriaeth Palesteina. Mynegai Stéphane Dujarric, llefarydd o'r Cenhedloedd Unedig, bryder bod y fath ymadawiad yn "amhosib heb ganlyniadau dyngarol dinistriol", a chafodd y gorchymyn ei alw'n trosedd yn erbyn dynoliaeth a cham yn erbyn cyfraith ddyngarol ryngwladol gan Paula Gaviria Betancur, adroddwr arbennig y Cenhedloedd Unedig ar hawliau dynol pobl sydd wedi'u dadleoli'n fewnol.[10][11][12][13][14] Er gwaetha'r bygythiad, erfynai gweinyddiaeth gartref Llain Gaza ar bobl i aros yn y fan. Cyhuddwyd Hamas gan John Kirby, llefarydd ar ran Cyngor Diogelwch Cenedlaethol yr Unol Daleithiau, o "godi rhwystrau ar y ffyrdd i atal pobl rhag dianc".[8]
Cychwynnodd goresgyniad Llain Gaza gan Israel ar 27 Hydref, ac erbyn 4 Tachwedd symudodd rhwng 800,000 ac 1 miliwn o bobl i dde Llain Gaza, gyda rhyw 350,000 i 400,000 o bobl yn aros yn y gogledd.[15] Er i Israel annog i bobl ymadael er diogelwch eu hunain, cafwyd sawl adroddiad o luoedd Israel yn targedu sifiliaid Palesteinaidd yn ystod y gwacâd, gan gynnwys lansio cyrchoedd awyr ar lwybrau'r ffoaduriaid ac ar diriogaeth "ddiogel" de Gaza.[16][17][18][19][20] Er enghraifft, cafodd cerbydau a oedd yn cludo sifiliaid ar hyd ffordd Salah-a-Din, un o'r ddau lwybr tua'r de, eu bomio gan yr IDF yn hwyr y prynhawn ar 13 Hydref. Yn ôl gweinyddiaeth iechyd Palesteina, lladdwyd 70 o bobl yn y cyrch awyr.[21] Mae ffoaduriaid wedi disgrifio'r llwybrau gwacáu yn anniogel ac yn frawychus o ganlyniad i bresenoldeb milwyr Israelaidd a chyrff y meirw ar hyd y ffordd.[22][23][24]
Ar 1 Rhagfyr, dechreuodd Israel gyhoeddi gorchmynion i wacáu ar draws Gaza oll, gan rannu'r diriogaeth yn 620 o barthau.[25] Yn ôl swyddogion y Cenhedloedd Unedig, cafodd trigolion Gaza eu gorfodi i symud i ardal a oedd yn cyfri am draean o gyfanswm arwynebedd yr holl diriogaeth.[26] Ar y pryd, roedd rhyw 80 y cant o boblogaeth y diriogaeth yn bresennol yn ne Llain Gaza.[27] Ym Mai 2024, cyhoeddwyd rhagor o wacadau ar draws Llain Gaza, a gorfodwyd i 900,000 o bobl symud ymhen wythnos.[28]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) "Israeli military warns Gazans to relocate south for safety", The Jerusalem Post (13 Hydref 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 9 Mehefin 2024.
- ↑ (Saesneg) Jaclyn Diaz, "Israeli military drops leaflets in Gaza calling for further evacuations", NPR (16 Tachwedd 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 16 Tachwedd 2023.
- ↑ (Saesneg) "Analysis: How bad is the humanitarian crisis in Gaza amid the Israel-Hamas war?", PBS (19 Tachwedd 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 9 Mehefin 2024.
- ↑ (Saesneg) Hanna Davis, "‘We will never forget’: Reliving the pain of the Nakba amid Israel’s war", Al Jazeera (2 Rhagfyr 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 9 Mehefin 2024.
- ↑ (Saesneg) "Hostilities in the Gaza Strip and Israel | Flash Update #166 – OCHA", Y Cenhedloedd Unedig (15 Mai 2024). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 9 Mehefin 2024.
- ↑ (Saesneg) Mohammed R. Mhawish, "‘A second Nakba’: Echoes of 1948, as Israel orders Palestinians to leave", Al Jazeera (14 Hydref 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 25 Hydref 2023.
- ↑ (Saesneg) Aditi Bhandari, Prasanta Kumar Dutta, a Mariano Zafra, "Israeli military orders Gazans to leave northern half of territory", Reuters (13 Hydref 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 9 Mehefin 2024.
- ↑ 8.0 8.1 (Saesneg) John Reed, Mehul Srivastava a Mai Khaled, "Residents flee Gaza City as Israel tells 1.1mn to leave", Financial Times (13 Hydref 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 14 Hydref 2023.
- ↑ (Saesneg) Heba Saleh, Mai Khaled ac Henry Foy, "‘The worst day’: Israeli warning prompts Palestinian exodus from north Gaza", Financial Times (13 Hydref 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 13 Hydref 2023.
- ↑ "Israel must rescind evacuation order for northern Gaza and comply with international law: UN expert" (yn English). Office of the High Commissioner for Human Rights. 13 October 2023. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 October 2023. Cyrchwyd 14 October 2023.CS1 maint: unrecognized language (link)
- ↑ Debre, Isabel; Lederer, Edith M.; Shurafa, Wafaa (13 October 2023). "Israel's military orders civilians to evacuate Gaza City, ahead of a feared ground offensive". AP News (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 October 2023. Cyrchwyd 13 October 2023.
- ↑ "Israel: 1.1 Million in Gaza Should Evacuate Within 24 Hours". Voice of America News. October 13, 2023. Archifwyd o'r gwreiddiol ar November 11, 2023. Cyrchwyd November 11, 2023.
- ↑ Falk, Pamela; Tanyos, Paris (13 October 2023). "Israeli military informs U.N. that all 1.1 million northern Gaza residents should evacuate south within 24 hours". CBS News (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 October 2023. Cyrchwyd 13 October 2023.
- ↑ Deng, Chao; Lubold, Gordon; AbdulKarim, Fatima (2023-10-14). "Gaza Residents Brace for Israeli Offensive After Evacuation Demand". The Wall Street Journal (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2023-10-13. Cyrchwyd 2023-10-16.
- ↑ Ambrose, Tom; Fulton, Adam; Ambrose (now), Tom; Fulton (earlier), Adam (2023-11-04). "Israel-Hamas war live: Red Crescent warns of 'war crime' after ambulances hit in Gaza". the Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2023-11-04. Cyrchwyd 2023-11-04.
- ↑ Gwall cyfeirio: Tag
<ref>
annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw:0
- ↑ Gwall cyfeirio: Tag
<ref>
annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw:ft
- ↑ Gwall cyfeirio: Tag
<ref>
annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enwWhy is Israel attacking
- ↑ "Photos: Palestinians fleeing to Khan Younis still face Israeli air attacks". Al Jazeera (yn Saesneg). 14 October 2023. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2023-10-14. Cyrchwyd 2023-11-07.
- ↑ Regencia, Ted; Rowlands, Lyndal (7 November 2023). "Israel-Hamas war live: One month of conflict, 10,000 dead in Gaza". Al Jazeera (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2023-11-07. Cyrchwyd 2023-11-07. Invalid
|url-status=deviated
(help) - ↑ (Saesneg) "Strike on civilian convoy fleeing Gaza: What we know from verified video", BBC (15 Hydref 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 15 Hydref 2023.
- ↑ Ismail, Asmina (7 November 2023). "US-Palestinian evacuees recount 'horror movie' of leaving Gaza". Reuters. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2023-11-18. Cyrchwyd 28 November 2023.
- ↑ "Israel calls it a humanitarian corridor, but for fleeing Palestinians, it's forced displacement". NBC News. 15 November 2023. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 November 2023. Cyrchwyd 28 November 2023.
- ↑ Shurafa, Wafaa (7 November 2023). "Civilians escaping northern Gaza describe terrifying trek past Israeli tanks". PBS. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 November 2023. Cyrchwyd 28 November 2023.
- ↑ "The Israel-Hamas war in maps: latest updates". Financial Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 December 2023. Cyrchwyd 3 December 2023.
- ↑ Besheer, Margaret (4 December 2023). "UN Chief Alarmed at Resumption, Spread of Gaza Fighting". VOA. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 December 2023. Cyrchwyd 5 December 2023.
- ↑ Zilber, Zeri (December 2023). "Israel plans for 'long war' and aims to kill top three Hamas leaders". Financial Times. Cyrchwyd 2 December 2023.
- ↑ "Israeli army orders more evacuations in northern Gaza". Al Jazeera. Cyrchwyd 23 May 2024.