Twrch daear

(Ailgyfeiriad o Gwahaddod)

Mamal yw'r twrch daear (lluosog: tyrchod daear) neu'r wahadden (lluosog gwahaddod) (ffurfiau eraill: gwadd a gwadden (lluosog gwaddod)), sy'n cynnwys y rhan fwyaf o deulu'r Talpidae yn y grŵp Soricomorpha.

Twrch daear

Creadur bychan melfedaidd ei flew (a chanddo lygaid bychain, trwyn hirfain teimladwy a choesau blaen cryfion a chyhyrog) sy’n byw gan mwyaf mewn twnnelau dan wyneb y pridd, gan durio am bryfed genwair a chynrhon o bob math yn fwyd, twrch daear[1]

Er fod y rhan fwyaf o dyrchod daear yn tyrchu, mae rhai mathau yn ddyfrol neu'n rhannol ddyfrol. Mae gan dyrchod daear gyrff silindrog wedi ei orchuddio gyda blew, a llygaid bychain sydd wedi eu gorchuddio; mae'r clustiau yn anweledig fel rheol. Maent yn bwyta anifeiliaid bychain di-asgwrn cefn sy'n byw o dan y ddaear. Mae'r twrch daear i'w ganfod yng Ngogledd America, Ewrop ac Asia. Mae ei absenoldeb yn Iwerddon yn ddadlennol am hanes datblygiad daearyddol yr ynysoedd hyn ar ôl yr Oes Ia diwethaf.

Fel moch, gelwir y gwryw yn faedd; a'r fenyw yn hwch. Pryfaid genwair ac anifeiliaid bychain eraill yw prif ddiet tyrchod daear. Gallant hefyd ddal llygod bychain wrth y fynedfa i'w twll. Oherwydd fod eu poer yn cynnwys gwenwyn sy'n paraleiddio pryfaid genwair, gall tyrchod daear storio eu hysglyfaeth yn fyw ac yn llonydd i'w fwyta'n ddiweddarach. Maent yn adeiladu pantri er mwyn storio'r ysglyfaeth; mae ymchwilwyr wedi canfod pantrïoedd gyda dros mil o bryfaid genwair ynddynt. Cyn eu bwyta, mae'r tyrchod daear yn tynnu'r pryfaid genwair drwy eu pawenau er mwyn tynnu'r pridd a'r baw allan o'i berfedd.[2]

Ymddygiad

golygu

Dan y ddaear yn tendio’i dwneli y bydd y twrch fel arfer. Ac ar ôl sefydlu ei rwydwaith ei brif waith yw rhedeg ar hyd y twnneli yn dal unrhyw bry genwair / mwydyn neu gynron pry teiliwr / jac y baglau fu’n ddigon gwirion i grwydro i’r twnnel. Mae ei diriogaeth, fel arfer, yn ’mestyn o ryw hanner acer i 3-4 acer – yn dibynnu ar faint o fwyd sy’n y pridd.

Gall symud, pan yn agor twnnel newydd, hyd at 6Kg o bridd – sy’ dros 12 pwys neu bron i stôn mewn 20 munud. Bwysau am bwysau fe shifftith fwy na peiriant jac codi baw yn yr un amser.[3]

Dosbarthiad tacsonomegol

golygu

Mae'r teulu Talpidae wedi ei rannu yn 3 is-deulu, 7 llwyth ac 17 o rywogaethau:

Perthynas â Dyn

golygu

Mae'r anecdotau canlynol yn arddangos perthynas ddeublyg â'r twrch - fel pla i'w waredu ac fel adnodd (croen):

  • Soniodd Harri Richards am ei gof yn blentyn tua 12 oed (tua 1956) am ddal tyrchod â thrapiau yn Sarn, eu blingo, eu hoelio gyda thin-tacs i ddarn o bren a'u sychu yn yr haul cyn eu danfon yn eu cannoedd i Lerpwl i wneud côt ffŷr ohonynt. Roedden nhw'n ysgafn iawn ar ôl eu sychu.[4]
  • "Nid oes dyrchwr o fewn cof neb byw a fywiai wrth y gwaith hwn wedi bod yn byw yn ein hardal.... Y mae gwaith y gwir dyrchwr yn un o celfyddydau mwyaf anodd i'w llwyr ddeall mewn bod, ac mae yn ofynnol ar sylwadaeth fanwl o arferion ac amseroedd y twrch drwy ffrwyth profiad maith a helaeth."[5]
    "Cefais ddwy wahadden heno eto - rwyf wedi cadw cyfrif manwl o'r gwahaddod a ddalwyd yma mewn trapiau oddi ar ddechrau'r gaeaf, a'r rhif heno yw 45"[6]
  • Mae'r twrch daear yn un o symbolau’r canu brud pan ddefnyddid enwau anifeiliaid i ddynodi dynion, e.e. y brenin Rhisiart III[1]
  • Mae'n hen arfer gan ffermwyr grogi cyrff y tyrchod a ddaliasent fel troffïau o gwmpas eu fferm (ar ffensys heddiw). Mae awgrym o hyn mewn trosiad a ddefnyddiodd Gwenallt mewn cerdd yn y gyfrol Rhydcymerau [7]:
...Ac ar golfenni, fel ar groesau,
Ysgerbydau beirdd, blaenoriad, gweinidogion ac athrawon Ysgol Sul
Yn gwynnu yn yr haul,
Ac yn cael eu golchi gan y glaw a'u sychu gan y gwynt


 
Crogbren tyrchod Bodernabwy...ger Aberdaron, Ebrill 2011Cyfrannwyd y llun gan Duncan Brown
  • Heblaw gwenwyno, trapio ydi’r dull arall o waredu tyrchod. Dyna ddull y tyrchwr / gwaddotwr proffesiynnol, fyddai’n gwerthu eu crwyn gwerthfawr i wneud trowsusau neu wasgodau ar gyfer mwynwyr a glowyr ’slawer dydd.[3]
  • “Ar fy ymweliad i ŵyl Dun Laoghaire eleni[2010], bum yn sgwrsio efo hogia Birdwatch Ireland ar eu stondin yn sioe "Cool Earth". Cefais stori ganddynt am gwmni nid anebwog [a'i enw yn dechrau efo B ac yn gorffwn efo Q] yn Y Gogledd, yn hybu gwerthiant offer cael gwared o dyrchod daear. Wyddoch chwi faint o dyrchod daear sydd yn yr Iwerddon - dim!!”[8]
  • ”Daeth y darn yma i gof. Mae ar fesur englyn ond cymysgedd Saesneg/Cymraeg. Mae mewn hen gasgliad wedi’i torri allan o bapurau newydd ayb. Does dim awgrym o bwy a’i lluniodd ond y dyddiad oedd 1928.
The mole, anodd ei ‘mela - in a field,
Stretcheth for its rhodfa;
A keen [digger (aneglur)] l can difa,
Tyrr ein tir winter and ha’ “[9]

Enwau, geirfa ac etymoleg

golygu

Enw deheuol ag olion gogleddol yn y gair priddwadd

[?H. Gym. *gwodd, T 4526, H. Grn. god, gl. talpa, Crn. C. goth, H. Lyd. guod, gl. talpha, Llyd. Diw. goz, Gael. Diw. famh] eb. (un. bach. taf. gwadden, gwahadden) ll. gwaddod2, gwahaddod.

  • c. 1400 R 127831-2, Mwy corff gwad yw llad nys lludyaf.
  • id. 13645-6, gwad glaf glun ffallech.
  • c. 1400 RB ii. 260, pryfet … ar weith gwad a deu dant y bop un.
  • c. 1400 ChO 2, E wad gynt a oed yn y daear yn cladu.
  • 15g. GGl 190, Y ddwy Faelor, wadd felen, / A’i gyrr i’r coed a’r graig hen.
  • 15g. GDLl 86, Pobl y wadd pawb a leddir.
  • 15g. LGC 140, Na sonier am yr eryr, / Nag am wadd, nag am ei wyr.
  • 15g. DE 147, merddin oedd yn dewiniaw / maer wadd wyd mor mor a ddaw.
  • 1547 WS, gwadd ne twrch dayar, a mole, want.
  • 1588 Eseia ii. 20, i’r wadd, ac i’r stlymmod.
  • 1632 D, gwadd, talpa.
  • 17g. CRC 236, Y wadd a ladd ag a lyske.

id. 239, pen ele o yn hen fo grog y wadd.

  • 1651 Siôn Treredyn: MDD 233, y wadd ddall daiarol [sic].
  • 1676 W. Jones: GB 101, a byw fel y waddod [sic] neu Bryfed y ddaiar.
  • 1725 D. Lewis: GB 153, Gwelwn hyn yn y Wâdd … gan fod ei holl Waith a’i Hachos dan y Ddaear.
  • 1790-1 H. Jones: T 97, mor ddalled a’r wâdd. Ar lafar yn gyff., yn y De ac mewn ymad. fel ‘tew fel gwadd’, ‘cysgu fel y wadd’; nis clywir yn y Gogledd ond yn y cfn. pridd y wadd, priddwal, &c., WVBD 169.[1]

Priddwadd, priddwal

golygu
Padog, Ysbyty Ifan 25 Ebrill 1957: Dragio dau ocyn ar sofl Cae Tan Wal. Hau Cae Tan Wal yn y pnawn. Codi ceirch i sachau, chwalu priddwadd hefo rhaw yn gwaelod Cae Tan Wal.[10]

Soniai DOJ hefyd yn fynych am "slingio" priddwadd ac fe ddefnyddiai DOJ "priddwal" yn gyfnewidiol a "priddwadd".

"Mae’n ddiddorol fod D.O. [sic.] yn defnyddio’r gair ‘priddwal’ yn 1948, ac yna ‘pridd wadd’ yn 1951. Mae hyn yn dystiolaeth ei fod yn defnyddio’r ddau derm yn gyfnewidiol yr adeg honno. Efallai mai’r esblygiad ar lafar gwlad oedd ‘Pridd y wadd’ i ‘pridd wadd’ i ‘priddwal’"[11]

Eraill

golygu

Yn ôl y Celt-garwr George Borrow:

In Wales, the mole is known by a variety of names, Man-geni [!], Man-cynhenyd, Samp, Gwadd, and Gorddodyn[12]

Llên Gwerin

golygu
  • Bu i'r Brenin ‘Wiliam Oren’, wnaeth gymaint dros yr oruchafiaeth Brotestaniaid yng ngogledd Iwerddon, gael ei ladd pan aeth troed ei geffyl i dwll twrch daear.[3]
  • Heblaw gwenwyno, trapio oedd y prif ddull o ladd y creadur. Clodforai mwynwyr glo y de drowsus wedi eu gwneud o groen gwadd uwchlaw pob defnydd arall. Tybed i ba raddau oedd cysylltiad y wadd â thwneli tanddaearol y tu ôl i'r farn hon gan fwynwyr tanddaearol?[3]

Llenyddiaeth

golygu

Dyma ddywed Gwilym Rhys amdano:

Hanner dall yw’r mwynwr du – yn y baw!
’Choelia’i byth mo hynny.
Gwelwch ei ôl, y gwalch hy,
’Nunion lle bum i’n plannu.

A’r Prifardd Dic Jones:

Ei deyrnas yw ei basej, – gwnaed ei wisg
Yn dynn fel sosej.
Â’n ei flaen â’i drwyn fel wej,
Ceibiwr y rhychau cabej.’[3]

Cafwyd pennill bach difyr gan Mrs Hilda Thomas, Tal y Bont, Ceredigion yn disgrifio’r hen ddull o ddal tyrchod hefo gwialen gam. Gwialen helyg ydi hon, wedi ei sticio i’r ddaear a’i phen wedi ei blygu drosodd, â chroglath arni yn sownd wrth ffrâm fechan o gollen yn nhrael neu dwnel y twrch o dan y briddwal neu docyn pridd. Pan aiff y twrch i’r groglath fe gaiff ei godi – ping! – o’r ddaear, yn crogi o’r llinyn.

Y twrch daear du ei liw,
Yn y ddaear mae e’n byw.
Dyn ddaw heibio â gwialen gam;
Cwyd e i fyny yn y man.[3]

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 Geiriadur Prifysgol Cymru
  2. The Life of Mammals, David Attenborough, 2002
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 3.4 3.5 Twm Elias Natur yn Galw (2018) o raglen Galwad Cynnar y BBC am Tyrchod Daear - (Ionawr 24ain a 31ain, 2009)
  4. Seiliedig ar nodiadau a gymerwyd gan DB o sgwrs ffon gyda Harri Richards, Sarn, Pwllheli ar 20 Awst 2010
  5. Diwydiannau Coll (Bob Owen, Croesor)
  6. Dyddiadur Defi Lango Esgairdawe 16 Ebrill 1959
  7. Ann Corkett, cys. pers.
  8. Ifor Williams
  9. Llythyr gan John Evans, Bwletin Llên Natur rhifyn 63
  10. Dyddiadur DO Jones, Padog (o deipysgrif electronig, gyda chaniatad y teulu)
  11. Cysylltiad uniongyrchol trwy'r teulu: Rheinallt Jones PhD, [mab y dyddiadurwr], Department of Pathology, Emory University School of Medicine, 615 Michael St., Atlanta GA 30322
  12. George Bolam: Wildlife in Wales 1913

Dolenni allanol

golygu
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: