Rhydcymerau

pentref yn Sir Gaerfyrddin

Pentref bach yng nghymuned Llanybydder, Sir Gaerfyrddin, Cymru, yw Rhydcymerau. Saif 8.5 cilometr i'r de-ddwyrain o dref Lanybydder yr ochr draw i Fynydd Llanybydder.

Rhydcymerau
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Gaerfyrddin Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.0302°N 4.0748°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruAdam Price (Plaid Cymru)
AS/au y DUJonathan Edwards (Annibynnol)
Map

Mae ganddo gapel, tŷ tafarn ac ysgol gynradd.

Bro D. J. Williams

golygu

Cysylltir Rhydcymerau â'r llenor a'r cenedlaetholwr D. J. Williams; un o'r tri a weithredodd yn erbyn ysgol fomio Penyberth ym 1936. Mae dwy gyfrol ei hunangofiant, sef Hen Dŷ Ffarm (1953) ac Yn Chwech ar Hugain Oed (1959) yn cynnig portread byw o fywyd yr ardal ar droad yr ugeinfed ganrif.

Cyfeiriadau

golygu