Gwaith Gruffydd Llwyd a'r Llygliwiaid Eraill
Golygiad o waith teulu o feirdd o'r 14-15g, wedi'i olygu gan Rhiannon Ifans, yw Gwaith Gruffydd Llwyd a'r Llygliwiaid Eraill. Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru a gyhoeddodd y gyfrol a hynny yn 2000. Yn 2013 roedd y gyfrol mewn print.[1]
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol |
---|---|
Golygydd | Rhiannon Ifans |
Awdur | Gruffudd Llwyd |
Cyhoeddwr | Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 1 Ionawr 2000 |
Pwnc | Astudiaethau Llenyddol |
Argaeledd | mewn print |
ISBN | 9780947531164 |
Tudalennau | 381 |
Genre | Llenyddiaeth Gymraeg |
Cyfres | Cyfres Beirdd yr Uchelwyr |
Disgrifiad byr
golyguTeulu o feirdd o Bowys a Meirionnydd oedd teulu'r Llygliwiaid. Canodd Llywelyn ap Gwilym Lygliw ar y testun 'Gweledigaeth Pawl yn Uffern' gan rybuddio yn erbyn dychrynfeydd y byd a ddaw gan annog gwell bywyd yn y byd hwn. Canodd Rhys ap Dafydd Llwyd ap Llywelyn Lygliw gywydd serch yn gofidio ynghylch swildod y bardd yng ngŵydd ei gariad, a chanodd Hywel ab Einion Lygliw awdl foliant enwog i Fyfanwy Fychan o Gastell Dinas Brân yn Llangollen. Roedd Hywel ab Einion, un o feirdd pwysicaf Owain Glyndŵr, yn ewythr i Ruffudd Llwyd.
Ceir yma 17 o gerddi o waith Gruffudd Llwyd. Mawrygwyd Gruffudd Llwyd gan ei gyfoeswyr fel bardd serch a chrefydd. Canodd hefyd gerddi i uchelwyr Cymreig, yn eu mysg ddau gywydd mawl i Owain Glyn Dŵr o gyfnod cyn dechrau’r Gwrthryfel ym mis Medi 1400.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan Gwales; adalwyd 16 Hydref 2013