Gwaith Haearn y Bers

gwaith haearn yng Nghymru

Sefydlwyd gwaith haearn y Bers ynghanol yr 17g. Lleolir y Bers ar lan Afon Clywedog get Wrecsam, ac mae'r safle erbyn hyn o dan ofalaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Mae canolfan dreftadaeth ar y safle erbyn hyn.

Gwaith Haearn y Bers
Delwedd:Bershamoctagonal.JPG, Pentref Bersham - egwlys a gwaith haearn 13.jpg
Mathgwaith haearn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirWrecsam Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.036164°N 3.034703°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwDE189 Edit this on Wikidata

Mwyngloddiwyd carreg haearn o byllau yn Ponciau, Rhosllanerchrugog, a Llwyn Einion, carreg galch o chwareli yn y Mwynglawdd, siarcol o’r coedydd o gwmpas Coedpoeth a phwer yr afon. Erbyn y 19g, defnyddiwyd glo o’r ardal, a gwerthwyd potiau pibelli ac ati yn Wrecsam a Chaer.

Ym 1753, cymerodd Isaac Wilkinson yr awenau. Dyfeisydd o ogledd Lloegr oedd Wilkinson, ac roedd yn awyddus i gael hyd i ragor o haearn. Ehangodd y gwaith a gwnaeth botiau, pibelli, rholwyr, ac arfau, ond roedd o mewn trafferthion ariannol erbyn 1761. Roedd ei fab, John Wilkinson, yn fwy llwyddiannus.[1] Disodlodd ei dad, yn cydweithio efo’i frawd William Wilkinson ym 1763. Adeiladwyd magnelau i’r fyddin a phystonau ar gyfer peiriannau stêm Matthew Boulton a James Wattyn defnyddio modd newydd o’u gwneud, yn gwella safon y cynnyrch. Defnyddiwyd y magneli yn rhyfeloedd yn erbyn Napoleon a hefyd yn Rhyfel Annibyniaeth America. Estynnwyd y gwaith haearn, gyda melin duriad, melin rolio, ffwrneisi, ffowndri i greu magneli a bythynnod i’r gweithwyr. Anfonwyd ei nwyddau trwy borthladd Gaer ac ar y camlesi o Preston Brook. Ym 1792, prynodd Wilkinson Stad Brymbo i greu gwaith haearn newydd i ddisodli’r Bers.[2]

Cyfeiriadau

golygu

Dolen allanol

golygu