Gwalchwyfyn y benglog
(Ailgyfeiriad o Gwalchwyfyn y Benglog)
Acherontia atropos | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Dosbarth: | |
Urdd: | Lepidoptera |
Teulu: | Sphingidae |
Genws: | Acherontia |
Rhywogaeth: | A. atropos |
Enw deuenwol | |
Acherontia atropos (Linnaeus, 1758) | |
Distribution map (red: all year distribution; orange: summer distribution possible) | |
Cyfystyron | |
|
Gwyfyn sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw gwalchwyfyn y benglog, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy gwalchwyfynod y benglog; yr enw Saesneg yw Death's-head Hawk-moth, a'r enw gwyddonol yw Acherontia atropos.[1][2]
Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnyws mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.
Wedi deor o'i ŵy mae'r gwalchwyfyn y benglog yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.
Hanesion unigol
golygu- Lindysen fawr “hynod o liwgar ac yn anferth wedi ei weld yn Mhenrallt Pwllheli” 31 Awst 2019 [2] wedi ei gofnodi ar Grwp FB Cymuned Llên Natur gan Dyfed Ellis Pritchard.
- Mae un o blant dosbarth Conwy, Ysgol Bro Gwydir wedi dod a gwyfyn i'r ysgol. Cafodd y plentyn y gwyfyn tra ar wyliau yn Lanzarote [yn 2010]. “Ar ol edrych ar y we, rydym yn meddwl mae Death Head Hawk moth [gwalchwyfyn y benglog] ydy o. Ydy o’n byw yng Nghymru?”
- 24 Awst 1987 Adroddiad ar Radio Cymru am walchwyfyn penglog yn cyrraedd Ynys Mon. Awgrymodd Huw John Huws mai'r un tywydd a ddaeth a'r tywod o'r Sahara wythnos diwethaf gludodd y gwyfynod yma (haenen dywod dros geir yr ardal)[3]
- Gwalchwyfyn y Benglog yn 1973? Dangoswyd paentiad o Walchwyfyn y Benglog mewn dyfrlliw a phensil, mewn arddangosfa o luniau Elsie Eldridge, Plas Glyn y Weddw, Llanbedrog, Pwllheli, Ebrill 2013.[3] Dyddiad y llun oedd 1973, blwyddyn casglu’r pryf tybed?[4]
- Mai 1954: Un yng nghyffiniau Ysgol Dr. Williams, Dolgellau ddechrau Mai 1954[5]
- Cafodd rhai eu gweld yn y blyddoedd hyn: 1825, 1954, 1970, 1971, (1973?) 1976, 1983, 1984, 1987, 1998, 2003. Ewch I’r Tywyddiadur [4] i weld mwy.
- Roedd 1865 yn arbennig o dda i wyfyn mwyaf Cymru, ac yn fewnfydwr mewn blynyddoedd ffafriol[6]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
- ↑ Y Bywiadur [1] ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.
- ↑ Bwletin Llên Natur rhif 23
- ↑ Bwletin Llên Natur rhifyn 63
- ↑ Field Notes, Nature in Wales 1i
- ↑ Bwletin Llên Natur rhifyn 149