Gwarchodfa Natur Genedlaethol Far Ings

Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Far Ings yn warchodfa natur ar lan deheuol Afon Humber, ar gyrion Barton-upon-Humber yn Swydd Lincoln. Crëwyd y warchodfa ar hen safle’r diwydiannau teils a sment a ffynnodd rhwng 1850 a 1959.[1] Mae maes parcio a chanolfan ymwelwyr. Rheolir y warchodfa gan Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Swydd Lincoln. Gwelir Corhedydd, Aderyn y bwn, Gwennol, Gwennol y Glennydd, Ehedydd, Drudwen, Pibydd coesgoch, Chwiwell, Rhostog Gynffonddu, Gŵydd droedbinc, Alarch a Chorhwyaden yno.[2]

Gwarchodfa Natur Genedlaethol Far Ings
Mathgwarchodfa natur Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau53.69684°N 0.45999°W Edit this on Wikidata
Map

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gwefan Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Swydd Lincoln
  2. "Gwefan birdersmarket.com". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-04-15. Cyrchwyd 2019-10-05.

Dolen allanol

golygu