Gwennol

rhywogaeth o adar
Gwennol
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Passeriformes
Teulu: Hirundinidae
Genws: Hirundo
Rhywogaeth: H. rustica
Enw deuenwol
Hirundo rustica
Linnaeus, 1758
Cyfystyron

Hirundo erythrogaster

Mae'r Wennol (Hirundo rustica), sy'n aelod o'r teulu Hirundinidae, y gwenoliaid, yn gyffredin trwy ran helaeth o Ewrop, Asia, Affrica a Gogledd a De America. Mae'n aderyn mudol, efallai y mwyaf adnabyddus o'r holl adar mudol.

Gellir adnabod y Wennol oddi wrth y gynffon hir gyda fforch ynddi, ac yn Ewrop y cefn glas tywyll, bol gwyn a mymryn o goch ar y gwddf, dyad thorch dywyll yn gwahanu'r coch a'r gwyn. Mae'r math yma yn nythu yn Ewrop a gorllewin Asia cyn belled i'r gogledd a'r Arctig, ac yn treulio'r gaeaf yn Affrica.

Mae'r is-rywogaeth yng Ngogledd America ychydig yn wahanol, gyda'r bol yn fwy coch a'r dorch dywyll yn llai. Mae'n nythu trwy Ogledd America ac yn gaeafu yn Ne America.

Gwennol, Nebo, Llanrwst; 2016.
Nythaid o gywion y wennol, mewn nyth ar Ynys Sgomer.
Wy'r Hirundo rustica

Yn yr Aifft mae is-rywogaeth H. r. savignii sydd yn fwy coch neu oren ar y bol ac sy'n aros yn yr un lle trwy'r flwyddyn. Yn Asia mae nifer o is-rywogaethau sydd hefyd yn fwy oren ar y bol na'r is-rywogaeth Ewropeaidd. Mae'r rhain yn gaeafu yn ne Asia a gogledd Awstralia.

Eu prif fwyd yw pryfed, sy'n cael eu dal trwy hedfan yn gyflym, weithiau'n uchel yn yr awyr ac weithiau dim ond modfeddi o'r llawr. Maent yn adeiladu nyth o fwd, gyda deunydd fel plu neu laswellt y tu mewn. Fel rheol maent yn nythu mewn adeiladau, er enghraifft beudai ac adeiladau fferm eraill neu o dan bontydd. Mae'r iâr yn dodwy 4 neu 5 wy.

Mae gweld y Wennol gyntaf yn y gwanwyn (yn y dyddiau diwethaf o Fawrth neu yr wythnos gyntaf o Ebrill yng Nghymru fel rheol) yn arwydd fod y gwanwyn wedi cyrraedd, ond fel y dywed y ddihareb Un Wennol ni wna wanwyn.