Gwasg Prifysgol Cymru
cyhoeddwr academaidd
(Ailgyfeiriad o Gwasg y Brifysgol)
Gwasg Prifysgol Cymru yw prif gyhoeddwyr academaidd Cymru ac un o'r gweisg mwyaf blaenllaw yn y byd academaidd Celtaidd. Cafodd 'Bwrdd Gwasg Prifysgol Cymru' ei sefydlu yn 1922 fel un o fyrddau canolog Prifysgol Cymru (gyda'r Bwrdd Academaidd a'r Bwrdd Gwybodau Celtaidd).
Enghraifft o'r canlynol | gwasg prifysgol, cyhoeddwr |
---|---|
Rhan o | y fasnach lyfrau yng Nghymru |
Dechrau/Sefydlu | 1922 |
Gweithredwr | Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan |
Aelod o'r canlynol | Association of Learned and Professional Society Publishers |
Rhiant sefydliad | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant |
Pencadlys | Caerdydd |
Enw brodorol | Gwasg Prifysgol Cymru |
Gwefan | https://www.uwp.co.uk/ |
Mae'r Wasg yn cyhoeddi yn y Gymraeg a'r Saesneg ac wedi gwneud cyfraniad arbennig i ddiwylliant Cymru dros y blynyddoedd, yn arbennig ym meysydd cyhoeddiadau ar hanes Cymru, yr iaith Gymraeg a llenyddiaeth Gymraeg. Ymhlith ei chyhoeddiadau pwysicaf mae Geiriadur Prifysgol Cymru. Mae'r wasg yn cyhoeddi tua 60 o lyfrau academaidd bob blwyddyn.
Cyfarwyddwyr y Wasg
golygu- 1990 – 1998 : Ned Thomas[1]
- 1998 – 2003 : Susan Jenkins
- 2003 – 2008 : Ashley Drake[2]
- Ionawr 2010 – 2017 : Helgard Krause (aeth ymlaen i fod yn Brif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru)[3].
- Mawrth 2017 – : Natalie Williams[4]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Cymrodyr er Anrhydedd Ned Thomas. Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Adalwyd ar 8 Mawrth 2017.
- ↑ New boss at University of Wales Press (en) , WalesOnline, 7 Awst 2003. Cyrchwyd ar 8 Mawrth 2017.
- ↑ Pennaeth Newydd i Wasg Prifysgol Cymru. Prifysgol Cymru (25 Ionawr 2010). Adalwyd ar 8 Mawrth 2017.
- ↑ Cyfarwyddwr newydd i Wasg Prifysgol Cymru , Golwg360, 8 Mawrth 2017.
Dolen allanol
golygu- Gwefan y wasg Archifwyd 2017-02-14 yn y Peiriant Wayback