Gweirlöyn yr Alban

Erebia aethiops
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Lepidoptera
Teulu: Nymphalidae
Genws: Erebia
Rhywogaeth: E. aethiops
Enw deuenwol
Erebia aethiops
(Esper, 1777)
Ŵy
Siani flewog
Dau chwiler

Glöyn byw sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw gweirlöyn yr Alban, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy gweirloynnod yr Alban; yr enw Saesneg yw Scotch Argus, a'r enw gwyddonol yw Erebia aethiops.[1] Mae i'w weld mewn gwledydd megis Alpau, Ffrainc, yr Almaen ac Asia. Ceir dwy isrywogaeth ym Mhrydain: E. a. caledonia yng ngorllewin yr Alban ac E. a. aethiops yng ngogledd-ddwyrain yr Alban (e.e. Fowlsheugh) a Cumbria. Fel arfer mae i'w ganfod ar ymyl coedwig a hynny hyd at 2,400m uwch lefel y môr ac ar ei adain rhwng Mehefin ag Awst. Mae'r siani flewog yn hoff iawn o fwyta gweiriau e.e. Agrostis, Dactylis, a Poa.

Yn gyffredinol golygu

Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnwys mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.

Wedi deor o'i ŵy mae gweirlöyn yr Alban yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.

Gweler hefyd golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau golygu

  1.  Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.