Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon
Cangen weinyddol Cynulliad Gogledd Iwerddon, senedd datganoledig Gogledd Iwerddon, ydy Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon. Mae'n atebol i'r Cynulliad a chafodd ei sefydlu yn unol â thelerau Deddf Gogledd Iwerddon 1998, a ddaeth yn sgîl Cytundeb Belffast (neu Gytundeb Dydd Gwener y Groglith).

Mae Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon yn cynnwys y Prif Weinidog a'r Dirprwy Brif Weinidog a nifer o weinidogion gyda phortffolios a dyletswyddau amrywiol. Mae prif blaid y cynulliad yn apwyntio'r nifer fwyaf o weinidogion i'r Gweithrediaeth, ac eithrio'r Gweinidog Cyfiawnder a gaiff ei ethol gan bleidlais draws-gymunedol. Mae hon yn un o dair llywodraeth ddatganoledig yn y Deyrnas Unedig, gyda'r lleill yn yr Alban ac yng Nghymru.