Gwenddolau
Brenin yn yr Hen Ogledd oedd Gwenddolau fab Ceidio (bu farw tua 573).
Gwenddolau | |
---|---|
Ganwyd | 520 |
Bu farw | 573 |
Man preswyl | Carwinley |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Caer Wenddoleu |
Galwedigaeth | brenin neu frenhines |
Swydd | teyrn |
Tad | Ceidiaw mab Arthwys |
Hanes a thraddodiad
golyguYn ôl Bonedd Gwŷr y Gogledd, roedd Gwenddolau yn ddisgynnydd i Coel Hen. Yn y farddoniaeth sy'n ymwneud â Myrddin yn Llyfr Du Caerfyrddin, cofnodir iddo gael ei orchfygu a'i ladd ym Mrwydr Arfderydd gan Rhydderch Hael. Roedd Myrddin yn fardd llys i Wenddolau, ac aeth yn wallgof o ganlyniad i'r frwydr a mynd i Goed Celyddon i fyw.
Ceir cyfeiriad at y frwydr yn y flwyddyn 573 yn yr Annales Cambriae, ond yma dywedir ei bod yn frwydr rhwng Gwenddolau a meibion Eliffer Gosgorddfawr. Mewn cofnod diweddarach, mae'r Annales yn enwi meibion Eliffer fel Gwrgi a Peredur.
Roedd 'Gwyddbwyll Gwenddoleu' yn un o Dri Thlws ar Ddeg Ynys Prydain; pan osodwyd y darnau gwyddbwyll ar y bwrdd byddent yn chwarae eu hunain.[1]
Yn agos i bentref Carwinley ar y ffin rhwng Lloegr a'r Alban mae hen ddinas. Hon yw Caer Wenddolau yn ôl pob tebyg.
Gweler hefyd
golygu- Ceidio, Gwynedd
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (Caerdydd, argraffiad newydd 1991), Atodiad III.