Gwenwyno methanol Galisia

Cafwyd achos o wenwyno gyda methanol yng Ngalisia a rhai o'r Ynysoedd Dedwydd yn 1963 pan laddwyd 51 o bobl (yn swyddogol) er bod honiadau fod rhwng 1,000 - 5,000 wedi marw'n dilyn ychwanegu methanol mewn diodydd alcoholaidd.[1][2]

Crema de orujo a licor café - hufen-brandi (cefn) a gwirod coffi - diodydd a grewyd gyda methanol.

Sicrhaodd Rogelio Aguiar gyflenwad o 75,000 litr o fethanol, a'i werthu i gwmni o'r enw "Lago e Hijos" o Vigo. Cymysgwyd y methanol i greu amryw o ddiodydd - gan fod methanol yn rhatach nag alcohol.[1][2]

Cofnodwyd y marwolaethau cyntaf yn Chwefror, yn Lanzarote gan fferyllydd lleol, Maria Elisa Alvarez Obaya, pan gysylltodd y farwolaeth Esteban Jesús Pablo Barreto Barreto gyda 4 person marw arall; cyhoeddodd ei chanfyddiadau, gan nodi mai 'gwenwyn gan fethanol' oedd yr achos tebygol. Anwybyddwyd ei rhybuddion a bu farw 16 o bobl eraill yn Lanzarote, La Gomera a Tenerife. Tua'r un amser, bu farw sawl person yn Galisia.[2]

Yn 1967 cyhuddwyd 11 o wŷr busnes am 'beryglu'r cyhoedd a charcharwyd hwy i hyd at 7 mlynedd o garchar. Hyd at 2015 nid oedd yr un perthynas i'r rhai hynny a fu farw wedi derbyn yr un geiniog o iawndal.[1]

Mae methanol (CH3OH) yn hylif anweddol, fflamllyd, di-liw, di-arogl. Fe'i defnyddir, fel arfer, mewn nwyddau megis hylif glanhau ffenestr y car, farnais, plastig ac i gynhyrchu ffrwydron. Maen hawdd i'w greu drwy ddistyllu pren, ac felly'n rhad i'w brynnu.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 "Os esquecidos do metílico" (yn Galisieg). Galicia Hoxe. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-03. Cyrchwyd 23 Mehefin 2015.
  2. 2.0 2.1 2.2 "Vuelve el caso del alcohol adulterado" (yn Sbaeneg). La Voz de Vigo. Cyrchwyd 23 June 2015.