Hondwras
Gweriniaeth ddemocrataidd yng Nghanolbarth America yw Gweriniaeth Hondwras ( ynganiad brodorol ; Sbaeneg: República de Hondwras). Mae'n ffinio â Gwatemala i'r gorllewin, El Salfador i'r de-orllewin, i'r de gan y Cefnfor Tawel, ac i'r gogledd gan Fôr y Caribî. Arferid cyfeirio ati fel "Hondwras Sbaenig" er mwyn ei gwahaniaethu oddi wrth "Hondwras Prydeinig" (ers hynny: Belîs).[1] Sefydlwyd sawl diwylliant Mesoamericanaidd yma, ganrifoedd cyn i'r dyn gwyn oresgyn y wlad yn y 16g. Mae'r Sbaeneg yn dal i gael ei siarad, ochr yn ochr a'r ieithoedd brodorol. Sicrhawyd annibyniaeth y wlad oddi wrth Sbaen yn 1821. Mae ganddi boblogaeth o 9,265,067 (2017)[2].
República de Honduras Gweriniaeth Hondwras | |
![]() | |
Arwyddair |
Libre, Soberana e Independiente ![]() |
---|---|
Math |
gwladwriaeth sofran, gweriniaeth, gwlad ![]() |
| |
Prifddinas |
Tegucigalpa ![]() |
Poblogaeth |
9,265,067 ![]() |
Sefydlwyd |
1810 (Anibyniaeth oddi wrth Sbaen) 1836 (eu cydnabod gan eraill) |
Anthem |
Anthem Genedlaethol Honduras ![]() |
Pennaeth llywodraeth |
Juan Orlando Hernández ![]() |
Cylchfa amser |
UTC−06:00 ![]() |
Iaith/Ieithoedd swyddogol |
Sbaeneg ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol |
America Ladin, Canolbarth America, America Sbaenig ![]() |
Arwynebedd |
112,492 km² ![]() |
Yn ffinio gyda |
Gwatemala, El Salfador, Nicaragwa ![]() |
Cyfesurynnau |
14.63333°N 86.81667°W ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol |
Llywodraeth Hondwras ![]() |
Corff deddfwriaethol |
Cynghrair Cenedlaethol Hondwras ![]() |
Swydd pennaeth y wladwriaeth |
Arlywydd Hondwras ![]() |
Pennaeth y wladwriaeth |
Juan Orlando Hernández ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth |
Arlywydd Hondwras ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth |
Juan Orlando Hernández ![]() |
![]() | |
![]() | |
Arian |
Lempira Hondwraidd ![]() |
Canran y diwaith |
4 ±1 % ![]() |
Cyfartaledd plant |
2.382 ![]() |
Mynegai Datblygiad Dynol |
0.606 ![]() |
Mae Hondwras yn un o'r gwledydd tlotaf yn Hemisffer y Gogledd, ac mae awdurdod y wlad yn ganolog ac oddi fewn i'r gymdeithas yn fregys iawn. Yn 1960, trosglwyddwyd yr hyn a elwid yn "Arfordir y Mostgito" o Nicaragua i Hondwras gan y Llys Cyfiawnder Rhyngwladol.[3] Yn wleidyddol, roedd y wlad yn eitha sefydlog hyd at coup d'état 2009 a'r etholiad arlywyddol yn 2017. Yn niwedd y 2010au, roedd y gymhareb llofruddiaethau i bob mil person, yn Hondwras - a'r trais yn erbyn merched yn waeth nag unrhyw wlad arall ar y blaned.[4][5]
Amaethyddiaeth yw sail economi'r wlad, a cheir trychinebau natur yn aml, megis Corwynt Mitch yn 1998 a ysgydwodd y wlad i'w seiliau. Yn y trefi a'r dinasoedd mae cyfoeth y wlad, fodd bynnag. Mae Mynegai Datblygiad Dynol ar hyn o bryd yn 0.606.[6]
- ↑ "Archeological Investigations in the Bay Islands, Spanish Honduras". Aboututila.com. Cyrchwyd 27 Mehefin 2010.
- ↑ https://data.worldbank.org/indicator/SP.POP.TOTL; dyddiad cyrchiad: 8 Ebrill 2019.
- ↑ "Mosquito Coast". Encyclopædia Britannica. Britannica Concise Encyclopedia. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-09-29. Cyrchwyd 2007-08-03. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ Parkinson, Charles (21 Ebrill 2014). "Latin America is World's Most Violent Region: UN". InSight Crime. Cyrchwyd 9 Chwefror 2016.
- ↑ Hawkins, Darren, and Melissa Humes. "Human Rights and Domestic Violence." Political Science Quarterly, cyfrol. 117, rhif. 2, 2002, tt. 231–257. JSTOR, JSTOR, www.jstor.org/stable/798182.
- ↑ "Human Development Report 2016: Human Development for Everyone" (PDF).