Gweriniaeth Sbaeneg yng Nghanolbarth America sy'n ffinio â'r Cefnfor Tawel i'r de, Gwatemala i'r gorllewin, ac Hondwras i'r gogledd a'r dwyrain yw Gweriniaeth El Salfador neu El Salvador (Sbaeneg: República de El Salvador, /re'puβlika ðe el salβa'ðor/).

El Salfador
República de El Salvador
ArwyddairDuw, Undod, Rhyddid Edit this on Wikidata
Mathgwladwriaeth sofran, gwlad Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôly Gwaredwr Edit this on Wikidata
PrifddinasSan Salvador Edit this on Wikidata
Poblogaeth6,029,976 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd1810 (Annibyniaeth oddi wrth Sbaen)
15 Medi 1821 (cydnabod gan Sbaen)
AnthemHimno Nacional de El Salvador Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethNayib Bukele, Salvador Sánchez Cerén, Mauricio Funes, Antonio Saca, Francisco Flores Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC−06:00, America/El_Salvador Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Sbaeneg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolAmerica Ladin, Canolbarth America, America Sbaenig Edit this on Wikidata
GwladEl Salfador Edit this on Wikidata
Arwynebedd20,742 ±1 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaHondwras, Gwatemala Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau13.66889°N 88.86611°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolLlywodraeth El Salfador Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholCynulliad Deddfwriaethol Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Arlywydd El Salfador Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethNayib Bukele Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Arlywydd El Salfador Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethNayib Bukele, Salvador Sánchez Cerén, Mauricio Funes, Antonio Saca, Francisco Flores Edit this on Wikidata
Map
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)$29,451 million, $32,489 million Edit this on Wikidata
Ariandoler yr Unol Daleithiau, Bitcoin Edit this on Wikidata
Canran y diwaith6 ±1 canran Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant1.931 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol0.675 Edit this on Wikidata

Gorchfygwyd El Salfador, oedd yn rhan o'r Deyrnas Astecaidd, gan y Sbaenwyr yn 1526, ac enillodd annibyniaeth yn 1821. Roedd yn aelod o Ffederasiwn Canolbarth America tan ei ddiddymiad yn 1839, a daeth yn weriniaeth yn 1841. Yng nghanol yr ugeinfed ganrif rheolwyd y wlad gan unbenaethau a dioddefodd o ansefydlogrwydd gwleidyddol. Bu wrthdaro â Hondwras yn 1965 ac yn Rhyfel Pêl-droed 1969. Parhaodd yr ansefydlogrwydd gwleidyddol i'r 1970au gyda gweithredoedd herwfilwrol yn erbyn y llywodraeth a gefnogwyd gan yr Unol Daleithiau. Yn dilyn bradlofruddiaeth Archesgob El Salfador Óscar Romero yn 1980 dechreuodd Rhyfel Cartref El Salfador, lle bu farw 75 000 a daeth nifer yn ffoaduriaid. Arwyddwyd cytundeb heddwch yn 1992; o dan delerau'r cadoediad cydnabuwyd y grŵp herwfilwrol asgell chwith Frente Farabundo Martí para la Liberación Nacional (FMLN) fel plaid wleidyddol ac aethant ymlaen i ennill seddi yn etholiadau deddfwriaethol 1994, pan ddaeth yr Alianza Republicana Nacionalista (ARENA) asgell dde i rym. Achosodd ddaeargrynfeydd difrod eang yn 2001.

Gwleidyddiaeth

golygu

Llywodraethir El Salfador gan Arlywydd a etholir pob pum mlynedd, a Chynulliad Cenedlaethol democrataidd gyda 60 o aelodau.

Daearyddiaeth

golygu

Mae dwy gadwyn folcanig sy'n llwybro o ddwyrain i orllewin El Salfador yn rhannu'r wlad yn dri rhanbarth daearyddol: llain gul arfordirol yn y de, dyffrynnoedd a llwyfandiroedd ucheldirol gydag uchder cyfartalog o 600 m yng nghanolbarth y wlad, a mynyddoedd yn y gogledd (gyda Santa Ana (2381 m) fel man uchaf y wlad). Mae'r Afon Lempa, sy'n croesi ffin ogleddol El Salfador â Hondwras a gyda'i tharddle yng NGwatemala, yn rhedeg yn ddeheuol trwy'r wlad i'r Cefnfor Tawel. Mae nifer o lynnoedd folcanig yn El Salfador, ac mae daeargrynfeydd yn gyffredin. El Salfador yw'r unig wlad yng Nghanol America heb arfordir ar Gefnfor yr Iwerydd.

Adrannau a bwrdeistrefi

golygu
 
Adrannau El Salfador

Rhannir El Salfador yn 14 o adrannau (departamentos), a phob un adran wedi'i isrannu'n 267 o fwrdeistrefi (municipios). Yr adrannau yw:

  1. Ahuachapán
  2. Cabañas
  3. Chalatenango
  4. Cuscatlán
  5. La Libertad
  6. La Paz
  7. La Unión
  1. Morazán
  2. San Miguel
  3. San Salvador
  4. San Vicente
  5. Santa Ana
  6. Sonsonate
  7. Usulután

Demograffeg

golygu

Mae tua 7 miliwn o bobl yn byw yn El Salfador; 90% ohonynt yn mestizo (hil gymysg), 9% yn wyn ac 1% yn frodorol. El Salfador yw'r wlad gyda'r dwysedd poblogaeth mwyaf yng Nghanolbarth America (318.7/km²). Mae 62% o'r boblogaeth yn byw mewn ardaloedd trefol a 38% yn byw yng nghefn gwlad.[1] Mae 80% o Salfadoriaid yn Gatholigion Rhufeinig, 18% yn efengylaidd a 2% yn grefydd arall neu ddim yn dilyn crefydd o gwbwl.[1]

Twristiaeth

golygu

[1] Mae nifer y twristiaid sy'n ymweld ag El Salfador wedi cynyddu yn sgil dyfodiad heddwch i'r wlad yn y blynyddoedd diweddar, gyda'r mwyafrif yn dod i fwynhau cyrchfannau arfordirol a thraethau El Salfador. Ond mae trosedd, daeargrynfeydd a chostau uchel am ystafelloedd a theithiau awyr dal i rwystro'r diwydiant.

Bu nifer y twristiaid yn cynyddu 29% yn 2002 i 951 000 o ymwelwyr, tua un am bob 6.8 Salfadoriad. Daeth 31% ohonynt o Gwatemala, 22% o Unol Daleithiau America, 17% o Hondwras a'r 30% gweddill o wledydd eraill.

Addysg

golygu

[1] Seilir cyfundrefn addysg El Salfador ar yr un Americanaidd. Y lefel llythrennedd yw 79%; mae addysg wedi'i chyfyngu mewn ardaloedd gwledig. Mae gan El Salfador 118 491 o fyfyrwyr (2004), a'r oedran i adael ysgol yw 15.

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 Financial Times World Desk Reference (Dorling Kindersley, 2004)

Cysyllltiadau allanol

golygu
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Gwefannau'r llywodraeth

golygu

Gwefannau'r cyfryngau

golygu

Gwefannau newyddion

golygu

Gwefannau teledu

golygu