Gweriniaeth Genoa

Dinas-wladwriaeth a gweriniaeth arforol a fodolai yng ngogledd yr Eidal o'r 11g hyd at ddiwedd y 18g oedd Gweriniaeth Genoa (Eidaleg: Repubblica di Genova, Ligwreg: Repúbrica de Zêna, Lladin: Res Publica Ianuensis). Lleolwyd ym mhorthladd Genoa a glannau cyfagos Liguria, a daeth nifer o ynysoedd a thiroedd arforol yn y Môr Canoldir a'r Môr Du dan ei meddiant.

Gweriniaeth Genoa
Coat of arms of Republic of Genoa.svg
Mathgwlad ar un adeg Edit this on Wikidata
PrifddinasGenova Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1005 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Gwladyr Eidal, Ffrainc Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau44.4075°N 8.9333°E Edit this on Wikidata
Map
Crefydd/Enwadyr Eglwys Gatholig Rufeinig Edit this on Wikidata
ArianGenovino, Genoese lira Edit this on Wikidata

Gellir olrhain hanes Genoa yn ôl i 2000 CC pryd cafodd yr ardal ger yr harbwr naturiol ei gwladychu gan forwyr Groegaidd. Bu dan reolaeth yr Ymerodraeth Rufeinig, Teyrnas yr Ostrogothiaid, a Theyrnas y Lombardiaid cyn iddi ddod yn rhan o'r Ymerodraeth Garolingaidd yn niwedd yr 8g ac yna'n rhan o Deyrnas yr Eidal, un o diriogaethau'r Ymerodraeth Lân Rufeinig. Tyfodd Genoa yn un o brif borthladdoedd y Môr Canoldir ac erbyn yr 11g roedd teuluoedd pendefig yng nghefn gwlad Liguria yn symud i'r ddinas i atgyfnerthu eu grym gwleidyddol ac economaidd.

Enillodd Genoa ei hannibyniaeth ar yr Ymerodraeth Lân Rufeinig ym 1099 ar ffurf y Compagna Communis, cynghrair o fasnachwyr a phendefigion yn cynnwys saith (yn ddiweddarach wyth) compagnies neu urdd a chanddynt lyngesau, glanfeydd, arfau, a rhandiroedd dinesig eu hunain. Yng nghyfnod cynnar y ddinas-wladwriaeth, bu cryn anghytuno rhwng yr uchelwyr ac weithiau aeth yn helyntion yn y strydoedd a brwydrau rhwng y gwahanol luoedd.[1]

Bu Gweriniaeth Genoa ar anterth ei grym o'r 12g hyd at ei gorchfygiad gan lynges Gweriniaeth Fenis ym Mrwydr Chioggia (1380). Ildiodd ei thra-arglwyddiaeth yn y Môr Canoldir i Ymerodraeth Sbaen yn nechrau'r 16g, ac o'r cyfnod hwnnw hyd at ddiwedd y 18g llywodraethai Gweriniaeth Genoa fel oligarchiaeth dan reolaeth y bendefigaeth.[1]

Yn sgil ymgyrch Napoleon Bonaparte yn yr Eidal, diddymwyd y weriniaeth ym 1797 a sefydlwyd Gweriniaeth Liguria, un o chwaer-weriniaethau Ffrainc, yn ei lle. Yn sgil cwymp Napoleon, ail-sefydlwyd Gweriniaeth Genoa am gyfnod byr (1814–5) cyn ei chyfeddiannu gan Deyrnas Sardinia.

CyfeiriadauGolygu

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) "Republic of Genoa" yn Gale Encyclopedia of World History: Governments. Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 12 Mai 2020.