Gweriniaeth Pobl Wcráin
Gwladwriaeth a fodolai yn Nwyrain Ewrop o 1917 i 1921 oedd Gweriniaeth Pobl Wcráin (Wcreineg: Lua error in Modiwl:Lang at line 15: attempt to index field 'lang_name_table' (a nil value)., УНР; Ukrajinśka Narodna Respublika, UNR). Sefydlwyd yn sgil Chwyldro Chwefror 1917 a chwymp Ymerodraeth Rwsia. Roedd ei ffiniau yn cyfateb yn fras i diriogaeth bresennol Wcráin, y Crimea a gorllewin Kuban yn Rwsia, a rhannau o dde Belarws, dwyrain Gwlad Pwyl, Slofacia, Moldofa, a Rwmania.
Gweriniaeth Pobl Wcráin Lua error in Modiwl:Lang at line 15: attempt to index field 'lang_name_table' (a nil value). Ukrajinśka Narodnia Respublika | ||||||
Ymreolaeth hunanddatganedig o fewn Gweriniaeth Rwsia (1917–1918) Gwladwriaeth a gydnabuwyd gan rai (1918–1921) | ||||||
| ||||||
---|---|---|---|---|---|---|
| ||||||
Anthem Lua error in Modiwl:Lang at line 15: attempt to index field 'lang_name_table' (a nil value). (Wcreineg) Shche ne vmerla Ukrainy (trawslythreniad) "ni fu dreng ar ogoniant Wcráin" | ||||||
Prifddinas | Kiev | |||||
Ieithoedd | Wcreineg (swyddogol) Rwseg Ieithoedd lleiafrifol: Iddew-Almaeneg, Pwyleg, Almaeneg, Belarwseg, Rwmaneg, Bwlgareg, Groeg, Urum ac eraill. | |||||
Crefydd |
| |||||
Llywodraeth | Llywodraeth dros dro | |||||
Arlywydd | ||||||
- | 1917–1918 | Mykhailo Hrushevskyi | ||||
- | 1918–1925 | Y Gyfarwyddiaeth | ||||
Arlywydd alltud | ||||||
- | 1926–1954 | Andriy Livytskyi | ||||
- | 1954–1965 | Stepan Vytvytskyi | ||||
- | 1965–1989 | Mykola Livytskyi | ||||
- | 1989–1992 | Mykola Plaviuk | ||||
Deddfwrfa | Y Rada Canolog (i Ebrill 1918) Y Gyngres Lafur | |||||
Cyfnod hanesyddol | Y Rhyfel Byd Cyntaf | |||||
- | Sefydlwyd y weriniaeth | 20 (7) Tachwedd 1917 | ||||
- | Annibyniaeth | 22 (9) Ionawr 1918 | ||||
- | Y Wladwriaeth Wcreinaidd | 29 Ebrill 1918 | ||||
- | Y Gyfarwyddiaeth | 14 Rhagfyr 1918 | ||||
- | Heddwch Riga | 18 Mawrth 1921 | ||||
Arwynebedd | ||||||
- | 1897 | 477,021 km² (184,179 sq mi) | ||||
Poblogaeth | ||||||
- | 1897 amcan. | 23,430,407 | ||||
Dwysedd | 49.1 /km² (127.2 /sq mi) | |||||
Arian cyfred | Karbovanets Hryvnia | |||||
Heddiw'n rhan o |
Ar 7 Tachwedd [20 Tachwedd yn yr Hen Ddull] 1917, cyhoeddwyd y Trydydd Gorchymyn Hollgyffredinol gan Rada Canolog Wcráin, yn sefydlu'r UNR yn nwyrain Wcráin, mewn ffederasiwn â Gweriniaeth Rwsia. Wedi i'r Bolsieficiaid gipio grym yn Rwsia yn Chwyldro Hydref 1917, goresgynnwyd Wcráin gan luoedd Rwsia a datganwyd annibyniaeth yr UNR gan y Rada ar 9 Ionawr [22 Ionawr yn yr Hen Ddull] 1918.[1]
Yn Chwefror 1918, arwyddwyd Cytundeb Brest-Litovsk gan yr UNR a fe'i cydnabuwyd yn wladwriaeth annibynnol gan y Pwerau Canolog yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Gyrrwyd y Bolsieficiaid ymaith gan luoedd yr Almaen ac Awstria-Hwngari, ond nid oedd yr Wcreiniaid yn cyflawni'r danfoniadau bwyd a gytunwyd dan delerau Brest-Litovsk. Yn sgil coup d'état Pavlo Skoropadsky yn Ebrill 1918, datganwyd y Wladwriaeth Wcreinaidd i olynu'r UNR.[1]
Adferwyd yr UNR dan lywodraeth y Gyfarwyddiaeth yn Rhagfyr 1918. Ar 22 Ionawr 1919, cyhoeddwyd Deddf Uno i ymgorffori tiriogaeth Gweriniaeth Pobl Gorllewin Wcráin yn rhan o'r UNR. Daeth yr UNR i ben yn niwedd Tachwedd 1920 yn sgil goresgyniad arall gan y Bolsieficiaid. Ffoes y Gyfarwyddiaeth a Chyngor Gweinidogion y Bobl, a fuont yn goroesi fel llywodraeth alltud nes 1992.[1]