Gwibdaith Hen Frân

Mae Gwibdaith Hen Frân yn fand acwstig gwerin amgen o ardal Blaenau Ffestiniog.

Gwibdaith Hen Frân
Enghraifft o'r canlynolband Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru

Cefndir

golygu

Ffurfiodd y band yn 2006, gan esblygu o chwarae yn nhafarndai Bro Ffestiniog i wyliau cerddorol megis Gŵyl Car Gwyllt, Tân y Ddraig, Maes B, a Sesiwn Fawr Dolgellau yn 2007. Daeth yr ysbrydoliaeth i enw'r band drwy ddylanwad y band Old Crow Medicine Show ac er cof am Jac y Frân, anifail anwes Phil, un o'r aelodau.

 
Gwibdaith yng ngŵyl Tegeingl.

Rhyddhawyd eu halbwm gyntaf, Cedors Hen Wrach yn 2007 ar label Rasal. Lansiwyd eu hail albwm, Tafod Dy Wraig yn Haf 2008 a dilynodd eu trydydd albwm, Llechan Wlyb ym mis Mai 2010.

Ym mis Tachwedd 2010, cyhoeddodd dau o aelodau Gwibdaith Hen Frân - Paul Thomas a Robert Ifan Buckley - eu bod yn bwriadu gadael y band. Fodd bynnag, cyhoeddodd Philip Lee Jones y buasai Gwibdaith Hen Frân yn parhau i berfformio hyd yn oed pe bai'r ddau yn gadael.

Ymunodd 3 aelod newydd â'r band ym mis Rhagfyr 2010; sef Justin Allen Davies (Mandolin / Harmonica), Gary Richardson (Gitâr Fas), ac Ieuan Williamson (Banjo), ac yn dilyn bron i dair mlynedd o deithio a pherfformio rhyddhawyd eu 4ydd albwm Yn Ôl ar y Ffordd ym mis Awst 2013.

Yn 2021, cyhoeddodd y grŵp eu bod yn rhoi'r gorau i berfformio gyda'i gilydd.[1]

Aelodau

golygu

Cyn-aelodau

golygu

Discograffiaeth

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Gwibdaith Hen Fran". www.facebook.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-09-14.