William John Roberts (Gwilym Cowlyd)
bardd, argraffydd a llyfrwerthwr
(Ailgyfeiriad o Gwilym Cowlyd)
Bardd Cymraeg, argraffydd a llyfrwerthwr oedd William John Roberts, (1828 – 6 Rhagfyr 1904), sy'n adnabyddus wrth ei enw barddol Gwilym Cowlyd. Roedd yn nai i Ieuan Glan Geirionydd.
William John Roberts | |
---|---|
Ffugenw | Gwilym Cowlyd |
Ganwyd | 1828 Trefriw |
Bu farw | 6 Rhagfyr 1904 Llanrwst |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd, argraffydd, llyfrwerthwr |
Bywgraffiad
golyguGaned Gwilym Cowlyd yn Nhrefriw yn yr hen Sir Gaernarfon (Sir Conwy erbyn hyn) yn 1828.
Yn 1863 sefydlodd orsedd a alwodd yn Orsedd Geirionydd i gystadlu a Gorsedd y Beirdd. Trefnodd Arwest Glan Geirionydd ar lan Llyn Geirionydd gyda'i gyd-feirdd Trebor Mai a Gethin Jones ("Gethin") am ei fod yn meddwl fod yr Eisteddfod Genedlaethol yn rhy Seisnigaidd.
Cyfansoddodd yr awdl "Mynyddoedd Eryri" a nifer o gerddi eraill a gyhoeddwyd gan ei wasg ef ei hun yn y gyfrol Y Murmuron yn 1868.
Claddwyd ef ym mynwent Eglwys Santes Fair, Llanrwst.
Cyhoeddiadau
golygu- Y Murmuron (Llanrwst, 1868)
- (golygydd). Bywyd a Gweithiau Ieuan Glan Geirionydd
- (golygydd). Gweithiau Gethin
- Diliau'r Delyn
- Cerddi'r Eryri, (Llanrwst 1887)
Mae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |
Llyfryddiaeth
golygu- Davies, Glynne Gerallt, Gwilym Cowlyd, 1828-1904 (Caernarfon: Llyfrfa'r Methodistiaid Calfinaidd, 1976).