Arwest Glan Geirionydd
Math o eisteddfod oedd Arwest Glan Geirionydd, a gynhelid bob Alban Hefin[1] ar lan Llyn Geirionydd, Sir Conwy, yn ail hanner y 19g.
Enghraifft o'r canlynol | eisteddfod |
---|
Hanes yr Arwest
golyguSefydlwyd yr Arwest gan y bardd lleol William John Roberts (Gwilym Cowlyd) (1828-1904), a oedd yn frodor o Drefriw, Dyffryn Conwy. Ystyriai Gwilym Cowlyd fod yr Eisteddfod Genedlaethol yn rhy Seisnigaidd o lawer a bod angen sefydlu gŵyl lenyddol wirioneddol Gymreig yn ei lle. Cynhaliwyd yr Arwest gyntaf gan Wilym Cowlyd, Gethin Jones a Robert Williams (Trebor Mai) ar Alban Hefin 1865.
Roedd Gwilym Cowlyd yn fardd rhamantaidd yn nhraddodiad y 19eg ganrif. Fel nifer o bobl eraill, credai mai Llyn Geirionydd oedd fan geni Taliesin, y bardd o'r 6g a ganodd i Urien Rheged ac a gysylltir â'r Hen Ogledd. Ond diweddar yw'r traddodiad poblogaidd sy'n cysylltu Taliesin a Llyn Geirionnydd. Tyfodd o gamddarllen llinell yn y gerdd 'Anrheg Urien',
- Mineu Dalyessin o iawn llyn gerionnyd,
a ddehonglwyd fel 'Minnau, Taliesin, o lan Llyn Geirionnydd'. Ond dangosodd Ifor Williams mai iawn-llin ("gwir linach") yw'r darlleniad (mae geirionyd yn hen ffurf ar ceraint). Ond yn y 19eg ganrif doedd pobl ddim yn gwybod hynny. Mae lleoedd eraill yng Nghymru yn cael ei gysylltu â Thaliesin mewn llên gwerin, fel Bedd Taliesin yng Ngheredigion, er enghraifft, ac yn y chwedl ganoloesol Hanes Taliesin mae'r bardd yn trechu beirdd llys Maelgwn Gwynedd yn ei lys yn Neganwy. Naturiol, felly, oedd derbyn fod Taliesin yn frodor o Ddyffryn Conwy. Cododd trefnwyr yr Arwest gofeb i Daliesin ar lan Llyn Geirionydd.
Cynhelid yr Arwest ei hun ychydig ymhellach o lan y llyn, mewn llecyn a fedyddwyd yn 'Fryn y Caniadau'. Yma byddai beirdd a chyfeillion yr Arwest yn ymgynnal. Fel yr Eisteddfod Genedlaethol, roedd gan yr Arwest ei Gorsedd ei hun.[2] Ymhlith yr aelodau amlycaf oedd y bardd 'Trebor Mai' a'r nofelydd 'Elis o'r Nant'. Enillodd Trebor Mai 'Gadair Taliesin' am ei awdl "Y Gloch" yn Arwest 1875.[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Alun Llywelyn-Williams, Crwydro Arfon (Cyfres Crwydro Cymru, 1959), tud. 61.
- ↑ Gwilym Cowylyd, Y Bywgraffiadur Ar-Lein.
- ↑ Gwaith Barddonol Trebor Mai (Lerpwl, 1883), tud. 114.
Llyfryddiaeth
golygu- Davies, Glynne Gerallt, Gwilym Cowlyd, 1828-1904 (Caernarfon: Llyfrfa'r Methodistiaid Calfinaidd, 1976). Llawer o fanylion am hanes yr Arwest.