Gwilym Owen Williams

Gwilym Owen Williams (23 Mawrth 1913 - 23 Rhagfyr 1990) oedd Esgob Bangor rhwng 1957 a 1982 ac Archesgob Cymru o 1971 hyd 1982.

Gwilym Owen Williams
Ganwyd23 Mawrth 1913 Edit this on Wikidata
Finchley Edit this on Wikidata
Bu farw23 Rhagfyr 1990 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethoffeiriad Edit this on Wikidata
Swyddesgob, Esgob Bangor, Archesgob Cymru Edit this on Wikidata
Cyflogwr

Bywgraffiad golygu

Addysgwyd Gwilym O. Williams yn ysgol Llanberis ac yng Ngholeg Yr Iesu, Rhydychen. Graddiodd yn y dosbarth cyntaf mewn Saesneg yn 1933, a diwinyddiaeth yn 1935. Ordeiniwyd ef yn ddiacon yn 1937 ac yn offeiriad yn 1938. Bu'n gurad yn Llanelwy hyd 1940, pan apwyntiwyd ef yn gaplan yng Ngholeg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan. Yn 1945 symudodd i ddinas Bangor i fod yn gaplan a thiwtor yng ngholeg y Santes Fair a darlithydd mewn diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Cymru, Bangor.

Yn 1947 daeth yn Ganon Eglwys Gadeiriol Bangor, ac yn 1948 daeth yn brifathro Coleg Llanymddyfri. Etholwyd ef yn Esgob Bangor yn 1957 a daeth yn Archesgob Cymru yn 1971, gan barhau yn y ddwy swydd hyd ei ymddeoliad yn 1982.

Daeth Gwilym Williams i amlygrwydd fel un o'r tri gŵr amlwg a aeth i weld William Whitelaw yr Ysgrifennydd Cartref yn llywodraeth Margaret Thatcher i'w berswadio i gadw at ei air a chreu sianel deledu ar gyfer y Cymry Cymraeg. Sefydlwyd S4C ym 1982. Bu ganddo hefyd ddylanwad mawr ar y penderfyniad i ordeinio merched yn offeiriaid.

Rhagflaenydd:
William Glyn Hughes Simon
Archesgob Cymru
19711982
Olynydd:
Derrick Greenslade Childs