Coleg yr Iesu, Rhydychen

coleg yn Rhydychen
(Ailgyfeiriad oddi wrth Coleg Yr Iesu, Rhydychen)
Coleg yr Iesu, Prifysgol Rhydychen
Second quad, Jesus College Oxford.jpg
Jesus oxford crest.svg
Enw Llawn Coleg yr Iesu ym Mhrifysgol Rhydychen o Sefydliad Elizabeth
Sefydlwyd 1571
Enwyd ar ôl Iesu Grist
Lleoliad Turl Street, Rhydychen
Chwaer-Goleg Coleg yr Iesu, Caergrawnt
Prifathro Syr Nigel Shadbolt
Is‑raddedigion 335[1]
Graddedigion 189[1]
Gwefan www.jesus.ox.ac.uk
Gweler hefyd Coleg yr Iesu (gwahaniaethu).

Un o golegau cyfansoddol Prifysgol Rhydychen yw Coleg yr Iesu (Saesneg: Jesus College). Mae ganddo waddolion ac arian wrth gefn o £79,700,391 (2003). Mae’n un o’r colegau mwyaf canolog yn ninas Rhydychen gyda mynediad yn Turl Street.

HanesGolygu

Hugh PriceGolygu

Sefydlwyd Coleg yr Iesu ym 1571, ar safle a fu gynt yn lleoliad i'r Neuadd Wen ers y drydedd ganrif ar ddeg. Fe'i sefydlwyd gan wyth o gomisiynwyr, Hugh Price (neu 'Hugh Aprice'), prebendwr (neu drysorydd) Tyddewi y pennaf ohonynt, a rhoddwyd siarter i’r coleg gan y Frenhines Elisabeth I. Yn 1571 perswadiodd y frenhines Elisabeth I i roi siarter brenhinol i'r sefydliad a daeth hwnnw i rym ar 27 Mehefin 1571. Noda'r siarter hon mai'r frenhines yw sefydlydd y coleg, a chyfeirir at Hugh Price fel 'y noddwr cyntaf'.

Cyfrannodd yn ariannol at godi'r coleg hwnnw; ar ei farwolaeth gadawodd hefyd 100 Marc a £60 y flwyddyn (a'i lyfrgell), ar yr amod y cydnabyddir ef (yn hytrach na'r frenhines) yn 'Sefydlydd y Coleg'. Amod arall oedd ei hawl i benodi Prifathrawon, Cymrodorion a myfyrwyr i'r coleg. Pan y bu farw, rhan o'r coleg oedd wedi'i godi; cychwynwyd ar y gwaith o adeiladu'r 'cwod' yn 1571. Ariannodd gychwyn adeiladu’r coleg, ond ar ei farwolaeth dim ond rhyw £600 o gyfraniad unwaith-ac-am-byth a adawyd ganddo.

yr 17eg ganrifGolygu

 
Cofeb i Syr Eubule Thelwall, 1630, yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen.

Daeth rhoddion mwy sylweddol i’r coleg yn yr ail ganrif ar bymtheg, y pennaf oedd rhodd o £5,000 gan Brifathro'r coleg: Eubule Thelwall o Ruthun, prifathro 1621-1630, er mwyn codi capel, neuadd a llyfrgell. Gadawodd Herbert Westfaling, Esgob Henffordd, ddigon o arian i sefydlu dau gymrawd ac ysgoloriaeth (er iddo roi'r amod "my kindred shallbe always preferred before anie others").[2] Bu'n rhaid dymchwel y llyfrgell dan brifathrawiaeth Francis Mansell (1630-49), a adeiladodd hefyd ddwy risfa ychwanegol er mwyn denu meibion bonedd Cymru i’r coleg.

Leoline (Llywelyn) Jenkins, prifathro 1661-73, a sicrhaodd ffyniant tymor hir y coleg, wrth iddo adael ar ei farwolaeth ym 1685 ystadau sylweddol a alluogodd sefydlu, a llenwi, nifer helaeth o gymrodoriaethau ac ysgoloriaethau .[3]

 
Y Capel.

Y cyfnod modernGolygu

Ym 1974, bu’r coleg ymysg y grŵp cyntaf o golegau dynion ym Mhrifysgol Rhydychen i ganiatáu mynediad i fenywod (ynghyd â Trwyn Pres, Wadham, Hertford a Choleg y Santes Catrin).

Cysylltiadau CymreigGolygu

Mae gan y coleg gysylltiadau cryf â Chymru. Sefydlwyd y coleg ar gais Cymro, Hugh Price, ac fe'i gwelwyd ers y cychwyn fel 'Y Coleg Cymreig' ym Mhrifysgol Rhydychen. Dywedir mai'r hanesydd David Powel oedd y myfyriwr cyntaf i raddio o'r coleg. Cyn sefydlu Prifysgol Cymru, Coleg yr Iesu oedd un o'r prif sefydliadau lle roedd nifer (prin) o Gymry yn cael addysg uwch, ond gwaniodd y cysylltiad dros amser. Ym 1637, allan o 86 o fyfyrwyr ar y llyfrau, cofnodir cartref 60 ohonynt: 31 o dde Cymru, 13 o ogledd Cymru, 11 o Fynwy a'r Gororau, un o Ynysoedd y Sianel, a dim ond un o Loegr. Erbyn 1895 roedd y Cymry yn dal i fod yn y mwyafrif gyda 18 allan o 27 o newydd-ddyfodiaid â chymhwyster o Gymru.

Hyd at 1859 roedd statudau'r Coleg yn neilltuo bron y cyfan o'r cymrodoriaethau i Gymry, ond bu diwygiad yn y flwyddyn honno yn lleihau'r nifer oedd ar gael i Gymry yn unig i hanner y cymrodoriaethau.

Roedd y rhan helaeth o'r prif gymeriadau yn ei hanes, a bron pob un Prifathro, yn Gymry. Yn sgîl y cysylltiadau hyn, roedd rhan helaeth o waddolion y coleg hefyd yng Nghymru; dywedwyd ar un adeg mai Coleg yr Iesu oedd y tirfeddiannwr mwyaf yng Nghymru oll heblaw'r Goron.

Yn academaidd hefyd, mae cysylltiadau ffurfiol â bywyd Cymreig. Sefydlwyd Athro Celteg y Brifysgol yng Ngholeg yr Iesu ers 1877. Delir swydd Cymrodor Uwchrifol yn y coleg fel arfer gan un o uwch academyddion prifysgolion yng Nghymru (Prifysgol Cymru gynt). Sefydlodd Edmwnd Meyricke (1636-1713) ysgoloriaethau yn y coleg, yn bennaf ar gyfer myfyrwyr o ogledd Cymru, ac wedi eu cyllido gan incwm ystadau yn y gogledd. Erbyn heddiw, mae'r ysgoloriaethau yn parhau, ond yn agored i fyfyrwyr o Gymru gyfan neu fyfyrwyr sydd wedi cael addysg yng Nghymru.[4]

Er bod y dylanwadau Cymreig wedi lleihau dros y blynyddoedd, mae'r cysylltiadau ffurfiol sy'n parhau yn ogystal â thraddodiad yn cadw'r dylanwad yn fyw. Dethlir Dydd Gŵyl Dewi yn y coleg, er enghraifft.

Ers 1701 bu'r coleg yn berchen ar Lyfr Coch Hergest, un o ffynonellau gwreiddiol y Mabinogi. Erbyn heddiw mae'r llyfr yn Llyfrgell Bodley, Prifysgol Rhydychen.

 
Blaen y coleg, Turl Street
 
Drws cartref y Prifathro.

CynfyfyrwyrGolygu

Dolenni allanolGolygu

CyfeiriadauGolygu

  1. 1.0 1.1 Niferoedd myfyrwyr, Rhagfyr 2016: Prifysgol Rhydychen; adalwyd 25 Mai 2017.
  2. (Saesneg) Speight, Martin E. "Westfaling, Herbert (1531/2–1602)". Oxford Dictionary of National Biography (arg. online). Gwasg Prifysgol Rhydychen. doi:10.1093/ref:odnb/29111.CS1 maint: ref=harv (link) (mae angen tanysgrifiad neu aelodaeth o lyfrgell gyhoeddus i ddarllen yr erthygl)
  3. http://www.jesus.ox.ac.uk/history/benefactors.php Archifwyd 2006-09-26 yn y Peiriant Wayback. Benefactors of Jesus College. Date of access 29 June 2006.
  4. J.N.L. Baker (1971) Jesus College, Oxford 1571-1971 Oxonian Press