Gwlad y Székely

tiriogaeth Hwngareg, Transylfania, Rwmania

Mae Gwlad y Seceli neu Gwlad y Seceli (Hwngareg: Székelyföld; Rwmaneg: Ținutul Secuiesc; Almaeneg: Szeklerland; Lladin: Terra Siculorum) yn ardal hanesyddol ac ethnograffig o Rwmania, lle mae Hwngariaid ethnig y Székelys (Seceli yn Gymraeg) yn byw yn bennaf. Ei chanolfan ddiwylliannol yw dinas Târgu Mureș (Marosvásárhely yn Hwngareg), yr anheddiad mwyaf yn y rhanbarth.[1]

Die historische Szeklerflagge
Die vom Szekler Nationalrat genutzte Flagge
Tiriogaethau'r tair gymuned yn rhanbarth y Siebenbürgen, Transylfania
Glas: Székelys,
Llwyd: Almaenwyr y Siebenbürger – Tiriogaeth hanesyddol Almaenwyr y Siebenbuerger,
Melyn: Tirogaeth Tirfeddianwyr hanesyddol
Cynnig ar gyfer rhanbarth ymreolaethol y Székley

Mae cymuned Seceli Transylfania, is-grŵp o bobl Hwngareg,[2][3] yn byw yng nghymoedd a bryniau Mynyddoedd Carpatiau'r Dwyrain, sy'n cyfateb i siroedd presennol Harghita, Covasna a rhannau o Mureș yn Rwmania.

Yn wreiddiol, rhoddwyd yr enw Gwlad Seceli i diriogaethau sawl anheddiad sicraidd ymreolaethol yn Transylfania. Roedd gan yr aneddiadau Seceli ymreolaethol eu system weinyddol eu hunain [4] ac roeddent yn bodoli fel endidau cyfreithiol o'r canol oesoedd hyd at yr 1870au.

Daearyddiaeth

golygu

Mae anghydfod ynghylch union diriogaeth Szeklerland heddiw. Mae ffiniau seddi hanesyddol Székely ac adrannau gweinyddol heddiw Rwmania yn annhebyg. Yn ôl Minahan amcangyfrifir bod ei diriogaeth yn 16,943 cilomedr sgwâr (6,542 metr sgwâr). [4] Mae cynnig ymreolaeth Cyngor Cenedlaethol Szekler yn cynnwys tua 13,000 km2. Mae'r maint hwn yn agos at hyd a lled y Tir Székely hanesyddol. Fodd bynnag, nid yw'n cynnwys rhanbarth Sedd Aranyos. Mae prosiect ymreolaeth UDMR yn cwmpasu tiriogaeth ychydig yn fwy. Mae'n cynnwys tiriogaethau cyfan siroedd Mureș, Harghita a Covasna.

Hanes yn 20g

golygu

Ynghyd â gweddill Transylfania a rhannau dwyreiniol Hwngari ei hun, daeth yr Hen Wlad yn rhan o Rwmania (neu Rwmania Fawr fel gelwir gan rai) ym 1920 o dan Gytundeb Trianon. Ym mis Awst 1940, o ganlyniad i Ail Ddyfarniad Fienna, rhoddwyd tiriogaethau gogledd Transylfania, gan gynnwys yr Hen Dref, i Hwngari o dan adain y Drydedd Reich. Daeth Gogledd Transylfania dan reolaeth lluoedd yr Undeb Sofietaidd a Rwmania ym 1944 [5][6][7] ac fe’i cadarnhawyd fel rhan o Rwmania gan Gytundeb Heddwch Paris, a lofnodwyd ar ôl yr Ail Ryfel Byd, ym 1947.

O dan yr enw "Rhanbarth Ymreolaethol Magyar", (Rwmaneg: Regiunea Autonomă Maghiară, Hwngareg: Magyar Autonóm Tartománygyda 1952-1960 ac yna Rhanbarth Ymreoliaethol Mureș-Magyar, 1960-68)) gyda Târgu Mureș yn brifddinas iddi,[8] mwynhaodd rhannau o Wlad Seceli lefel benodol o ymreolaeth rhwng 8 Medi 1952 ac 16 Chwefror 1968. Mae mentrau ymreolaeth diriogaethol wedi'u hanelu at cyflawni hunan-lywodraeth ar gyfer y rhanbarth hwn yn Rwmania. Cafwyd gwared ar yr ymreolaeth yma gan yr unden gomiwnyddol Nicolae Ceauşescu.

Daeth Ceaușescu i rym ym 1965. Am yr ychydig ddegawdau nesaf, oherwydd ymdrechion Rwmaneiddio, ymgartrefodd nifer fawr o Rwmaniaid ethnig yn Székely Land.[9] Ail-leolwyd Hwngariaid Székely oedd â gradd prifysgol i rannau eraill o Rwmania.[9] Ym mis Mawrth 1990, gwelodd gwrthdaro treisgar rhwng grwpiau Rwmania ethnig a Hwngari yn ninas Târgu Mureș.[10]

Gwlad y Seceli Heddiw

golygu

Ar ôl cwymp comiwnyddiaeth, roedd llawer Yn gobeithio y byddai hen Ranbarth Ymreolaethol Magyar, a ddiddymwyd gan drefn Nicolae Ceauşescu, yn cael ei adfer yn fuan. Ni ddigwyddodd hyn; fodd bynnag, mae yna fentrau ymreolaeth Székely [11] ac ymdrechion pellach gan sefydliadau Székely i gyrraedd lefel uwch o hunan-lywodraethu ar gyfer Tir Székely yn Rwmania.

Ar 2 Chwefror 2009, cyfarfu Arlywydd Rwmania Traian Băsescu ag Arlywydd Hwngari László Sólyom yn Budapest a thrafod materion hawliau lleiafrifol ac ymreolaeth ranbarthol. Dywedodd Băsescu "Ni fydd y lleiafrif Hwngari byth yn cael ymreolaeth diriogaethol."[12]

Yn 2014, roedd gan yr UDMR a Phlaid Ddinesig Hwngari gynnig ymreolaeth ar y cyd ar gyfer Szeklerland ond roedd gan Gyngor Cenedlaethol Szekler ei awgrym ei hun hefyd.

Yn 2016, lluniwyd Hans G. Klemm, Llysgennad yr Unol Daleithiau i Rwmania, ynghyd â swyddogion lleol eraill, â baner Szekler yn ystod ei ymweliad â Szeklerland. Postiwyd y llun gan faer Sfântu Gheorghe ar Facebook. Roedd ymatebion y gwleidyddion yn Bucharest yn gythryblus. Mewn ymateb cadarnhaodd Klemm mai’r unig ddwy faner sy’n bwysig iddo, fel diplomydd, yw’r Unol Daleithiau a’r rhai Rwmania.[13]

Poblogaeth

golygu

Mae'r tabl canlynol yn dangos nifer yr Hwngariaid a'r Szeklers yn yr ardaloedd sy'n ffurfio (yn rhannol) Szeklerland, yn seiliedig ar gyfrifiad Rwmania yn 2002. Mae'r Hwngariaid yn ardaloedd Harghita a Covasna bron i gyd yn Szeklers, tra yn Cluj a Mureș mae llawer o Magyars hefyd bywyd.

Sir Hwngariaid Canran y boblogaeth
Sir Harghita 275.841 84,61%
Sir Covasna 164.055 73,81%
Sir Mureș 227.673 39,26%
Sir Cluj 122.131 17,37%

Cyfeiriadau

golygu
  1. James Minahan, [[[:Nodyn:Googlebooks url]] Encyclopedia of the stateless nations. 4. S - Z], Greenwood Publishing Group, 2002, p. 1810
  2. Sherrill Stroschein, [[[:Nodyn:Googlebooks url]] Ethnic Struggle, Coexistence, and Democratization in Eastern Europe], Cambridge University Press, 2012, p. 210 Cited: "Székely, a Hungarian sub-group that is concentrated in the mountainous Hungarian enclave"
  3. Nodyn:Citar livro
  4. Józsa Hévizi, Thomas J. DeKornfeld, [[[:Nodyn:Googlebooks url]] Autonomies in Hungary and Europe: a comparative study], Corvinus Society, 2005, p. 195
  5. Nodyn:Citar livro
  6. Nodyn:Citar livro
  7. the Armistice Agreement with Romania
  8. "copi archif" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2013-10-29. Cyrchwyd 2020-04-30.
  9. 9.0 9.1 Ingrid Piller, Linguistic Diversity and Social Justice: An Introduction to Applied Sociolinguistics, Oxford University Press, 2016, p. 101
  10. https://books.google.co.uk/books?id=AkppAAAAMAAJ&q=Romania+and+Transylvania+in+the+20th+Century&dq=Romania+and+Transylvania+in+the+20th+Century&hl=en&sa=X&ei=aLq5UfmkLMHHPJr6gfgI&redir_esc=y
  11. https://www.nytimes.com/2008/04/07/world/europe/07hungarians.html?_r=1&scp=1&sq=Szekler&st=nyt&oref=slogin
  12. https://web.archive.org/web/20150417070517/http://budapesttimes.hu/2013/03/18/world-protests-back-szekely-autonomy/
  13. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-12-30. Cyrchwyd 2020-04-30.