Székely

grwp Hwngariaid ethnig yn Transylfania, Rwmania
(Ailgyfeiriad oddi wrth Székelys)

Grŵp ethnig Hwngareg yw'r Székely (ynganner: seːkɛj; Hwngareg: Székely, Rwmaneg: Secui' - sillafu gynt: Săcui', Almaeneg: Szekler; Cymraeg: Seceli hefyd yn Saesneg: Székeler), sy'n byw yn bennaf yn Szeklerland (Hwngareg: Székelyföld), ar hyd ffin ddwyreiniol Transylfania yn Rwmania gyfoes.[1][2] Yn hanesyddol, bu'r Szekleriaid yn warchodwyr ffiniau Ymerodraeth Hwngari yn erbyn yr Otomaniaid.[3] Yn yr Oesoedd Canol, roedd y Székely yn un o dair pobloedd freintiedig Transylfania, ynghyd ag uchelwyr Hwngari a'r Siebenburger Sachsenon (Sacsoniaid y Saith Mynydd - Almaenwyr ethnig yn ardal a elwir y Saith Mynydd, 'Siebenburgen' yn Almaeneg). Y Szeklerland, yr ardal y bu'r Székely yn byw ynddi yn hanesyddol, yw'r unig ardal bron lle mae'r Hwngareg yn fwyafrif yn heddiw.

arfbais y Székely

I lawer o Székely, mae hunaniaeth Székely yn ategu hunaniaeth Hwngari. Mae'r rhan fwyaf o Székely yn teimlo'n Hwngareg o ran eu prif hunaniaeth, ac yn Székely'n ail. Mae cyfrifiadau Rwmania yn cynnig y posibilrwydd i gofrestru gyda'r grŵp poblogaeth "Szekler"; defnyddiodd cyfanswm o 150 o bobl hyn yn 2002. Cofrestrodd bron pawb o'r Székely fel "Hwngareg".

GwreiddynGolygu

Mae amheuaeth ynghylch tarddiad y Szeklers, ond yn 1990 dangosodd dwyochrog genetig a gynhaliwyd gan Endre Czeizel eu bod yn wahanol o Hwngariaid. Mae'r dwyochrog wedi dangos eu bod agosaf at o Hwngariaid ac i bobloedd Iran. (pobloedd Iran: Scythites, Persian Sarmatas.)

HanesGolygu

Daw'r enw Székely o'r gair Hwngareg sy'n golygu "gwarchodwyr y ffin".[4]

Ceir cryn drafodaeth am darddiad y Székely. Derbynir yn gyffredinol bellach eu bod yn ddisgynyddion i'r Hwngariaid (neu pobloedd Twrceg oedd wedi eu cymhathu i'r diwylliant Hwngaraidd) oedd wedi eu trawsblannu i ddwyrain Mynyddoedd Carpatiau i amddiffyn y gororau, a dyna ystyr eu henw - "amddiffynwyr y ffin/gororau.".[4] Yn hanesyddol fe hawliodd y Székely eu bod yn ddisgynyddio i Hwniaid Attila[4] a credent iddynt chwarae rhan hanfodol wrth siapio Hwngari. Yn ôl chwedl gadawyd cyfran o Hyniaid yn Transylfania gan gynghreirio gyda'r fyddin Hwngareg wrth iddyn goncro basn y Carpatiau yn y 9g. Dywedodd y croniclydd Simon o K Kéza bod y Székely yn ddisgynyddion Hyniaid bu'n byw yn y mynyddoedd cyn y gongwest Hwngaraidd.[5]

PoblogaethGolygu

Yn ôl amcangyfrifon yn seiliedig ar y cyfrifiad diweddaraf yn Rwmania, mae tua 670,000 o Székely yn byw yn Rwmania, y mwyafrif ohonyn nhw yn siroedd Harghita, Covasna a rhannau o siroedd Mureș a Cluj (Szeklerland hanesyddol). Yn hanesyddol, roedd y Székely hefyd yn byw yn yr Aranyosszék yng nghanol Transylfania. Hwn oedd ymreolaeth diriogaethol leiaf y Székely. Heddiw mae tua 4,200 o Székely yn dal i fyw yma.

GwleidyddiaethGolygu

 
Map y tiroedd a drosglwyddwyd i Hwngari rhwng 1938-40 gan gynnwys gogledd Transylfania a Trawscarpatia

Bu hunaniaeth wleidyddol y Székely yn sail sawl brwydr filwrol a gwleidyddol ers ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf. Rhwng 1869-1918 ac am gyfnodau maith cyn hynny, perthynai'r Székely i Hwngari o fewn tiriogaeth a elwir yn gyffredinol heddiw fel Hwngari Fawr (ond a oedd yn y cyfnodau dan sylw yn cael eu cydnabod fel "Hwngari". Daeth hynny i ben wedi aflwyddiant Ymerodraeth Awstria-Hwngari yn y Rhyfel Mawr. Yn sgil Cytundeb Trianon wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf ac yn sgil y ffaith i Hwngari golli i Rwmania yn filwrol, ildiwyd Transylfania, gan gynnwys tiroedd y Székely, i Rwmania. Dyna bu'r drefn am ugain mlynedd nes i cyflafareddiadau Fienna drosglwyddo gogledd Transylfania - ardal y Székely - i Hwngari yn Ail Ddyfarniad Fienna yn 1940. Dyna fu'r drefn yn swyddogol nes i Hwngari golli'r tiroedd yng Nghytuneb Paris wedi'r Ail Ryfel Byd.

Wedi'r Rhyfel bodolai ranbarth hunanlywodraethol Székely rhwng 1952 a 1968 o fewn Rwmania gomiwnyddol. Sefydlwyd y 'Rhanbarth Hunanlywodraethol Magyar ym 1952, ac fe'i ailenwyd i Ranbarth Hunanlywodraethol Mureș-Magyar ym 1960. Ers diddymu'r Rhanbarth gan yr unben gomiwnyddol, Ceauşescu yn 1968, mae rhai o'r Székely wedi bod yn galw ar ail-sefydlu'r Rhanbarth hunanlywodraethol. Trafodwyd sawl cynnig o fewn y gymuned a chan y Rwmaniaid mwyafrifol. Un cynnig yw creu rhanbarth ar sail cymunedau hunanlywodraethol Sbaen (megis Catalwnia).[6] Cynhaliwyd rali heddychlon dros ymreolaeth yn 2006 o blaid hunan-lywodraeth.[7]

Yn 2013 a 2014, gorymdeithiodd miloedd o Hwngariaid dros awtonomi ar 10 Mawrth yn ninas Târgu Mureș, Romania.[8] 10 Mawrth yw blwyddiant dienyddiad tri Székely oedd yn ymgyrchu dros hunanlywodraeth ym 1854 yn Târgu Mureș gan awdurdodau'r Ymerodraeth Awstria.[9]

Cynrychiolir y Székely gan Gyngor Cenedlaethol Székely. Anthem genedlaethol y Székely yw Székely himnusz.

PoblogaethGolygu

 
Rali dros hunanlywodraeth i Dir Székely, 2013, Budapest

Mae'r tabl canlynol yn dangos nifer yr Hwngariaid a'r Székely yn yr ardaloedd sy'n ffurfio (yn rhannol) Szeklerland, yn seiliedig ar gyfrifiad Rwmania yn 2002. Mae'r Hwngariaid yn ardaloedd Harghita a Covasna bron i gyd yn Székely, tra yn Cluj a Mureș mae llawer o Magyars hefyd.

Sir Hwngariaid Canran y boblogaeth
Sir Harghita 275.841 84,61%
Sir Covasna 164.055 73,81%
Sir Mureș 227.673 39,26%
Sir Cluj 122.131 17,37%

Dolenni AllanolGolygu

  •   "Szeklers". Encyclopædia Britannica. 26 (arg. 11th). 1911. t. 320.
  • Minority Cultures: The Szeklers Tortured History
  • http://www2.sci.u-szeged.hu/fokozatok/PDF/Kovacsne_Csanyi_Bernadett/PhDertekezes_CsanyiB.pdf
  • https://m.nyest.hu/media/a-szekely-minta-genetikai-tavolsaga-a-tobbi-etnikai-csoporttol-es-mas-neessegektol.jpg?large

CyfeiriadauGolygu

  1. Ramet, Sabrina P. (1992). Protestantism and politics in eastern Europe and Russia: the communist and postcommunist eras. 3. Duke University Press. t. 160. ISBN 9780822312413. ...the Szekler community, now regarded as a subgroup of the Hungarian people.
  2. Sherrill Stroschein, Ethnic Struggle, Coexistence, and Democratization in Eastern Europe, Cambridge University Press, 2012, p. 210 Cited: "Székely, a Hungarian sub-group that is concentrated in the mountainous Hungarian enclave"
  3. Piotr Eberhardt (January 2003). Ethnic Groups and Population Changes in Twentieth-century Central-Eastern Europe. M. E. Sharpe, Armonk, NY and London, England, 2003. ISBN 978-0-7656-0665-5.
  4. 4.0 4.1 4.2 "Szekler people". Encyclopædia Britannica.
  5. Kevin Brook: Jews of Khazaria, Rowman & Littlefield Publisher, UK, 2006, page 170 [1]
  6. Nodyn:In lang României îi este aplicabil modelul de autonomie al Cataloniei Archifwyd 28 May 2006 yn y Peiriant Wayback. (The Catalan autonomy model is applicable in Romania), Gândul, 27 May 2006
  7. "HUNSOR ~ Hungarian Swedish Online Resources". Hunsor.se. Cyrchwyd 2013-11-26.
  8. "Global post". MTI. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-03-14. Cyrchwyd 2014-03-13.
  9. "All Hungary Media Group". Hunsor.se. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 Mawrth 2014. Cyrchwyd 13 Mawrth 2014.