Ail Ddyfarniad Fienna
Gelwir y dyfarniad ar 30 Awst 1940 lle gorfododd yr Eidal Ffasgaidd a'r Almaen Natsïaidd i Rwmania i drosglwyddo rhan o Transylfania i Hwngari yn Ail Ddyfarniad Fienna ac roedd yn rhan o Gyflafareddiadau Fienna.[1] Bu i'r trosglwyddiad tir adfer peth o diriogaeth Hwngari Fawr a chreu bawd o dir yn rhannu Rwmania bron yn ddwy.
Enghraifft o'r canlynol | cytundeb |
---|---|
Dyddiad | 30 Awst 1940 |
Gwlad | Hwngari Rwmania |
Lleoliad | Belvedere |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cefndir
golyguRoedd Ail Ddyfarniad Fienna yn rhan o bolisi cyffredinol Hwngari mewn perthynas â gwyrdroi chytuniadau heddwch y Rhyfel Byd Cyntaf.
Roedd Cytundeb Trianon (1920) wedi lleihau tiriogaeth Hwngari yn ddifrifol o'r hyn a oedd unwaith yn deyrnas Hwngari, a dyma miliynau o Hwngariaid yn canfod eu hunain yn byw y tu allan i'r ffiniau cenedlaethol ac o dan lywodraethau oedd yn estron iddynt yn Tsiecoslofacia a Rwmania gan mwyaf a nifer llai yng ngwladwrieth newydd Iwgoslafia.
Yn Nyfarniad Gyntaf Fienna yn 1938-39, trosglwyddwyd tiriogaeth o Tsiecoslofacia i Hwngari - oddi ar Slofacia yn 1938 a Rwthenia Is-Carpatia (rhanbarth fwyaf ddwyreiniol Tsiecoslofacia) yn 1939. Ond daliodd Transylfania (rhanbarth ag iddi fwy o Hwngariad ac a enillwyd gan Rwmania wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf, yn rhan o Rwmania.
Ym mis Mehefin 1940, pan orfodwyd Rwmania i werthu ei taleithiau dwyreiniol, Bessarabia a Bwcofina i'r Undeb Sofietaidd yn dilyn yr wltimatwm a'r goresgyniad, penderfynodd llywodraeth Budapest, dan arweiniad y Llyngesydd Miklós Horthy, fanteisio ar yr amgylchiadau a bwrw o'r neilltu eu amheuaeth ar bwerau Pwerau'r Echel (Yr Almaen a'r Eidal) i ailgynnau'r mater o adfer tiroedd "coll" yn Rwmania. Gan geisio osgoi agor ffrynt yn y Balcanau lle roedd ganddynt fuddiannau olew, awgrymodd yr Eidal a'r Almaen i'r partïon setlo'r anghydfod drwy drafodaethau uniongyrchol.
Yn unol â dymuniadau'r Almaen, cychwynnodd Rwmania drafodaethau â Hwngari yn Turnu Severin (Hwngareg: Szörényvár) ar 16 Awst 1940.[2] I ddechrau fe hawliodd Hwngari 69,000 km² o diriogaeth gyda 3,803,000 o drigolion, bron i ddwy ran o dair o Rwmania (Transylfania gyfan yn y bôn). Chwalwyd y sgyrsiau ar 24 Awst. Yna cynigiodd llywodraethau’r Almaen a’r Eidal gyflafareddiad, a nodweddir yng nghofnodion Cyngor Coron Rwmania ar 29 Awst fel “cyfathrebiadau terfynol a wnaed gan lywodraethau’r Almaen a’r Eidal.”[2] Derbyniodd y Rwmaniaid hyn, a bu i'r Gweinidogion Tramor Joachim von Ribbentrop o'r Almaen a Galeazzo Ciano o'r Eidal gwrdd ar 30 Awst 1940 ym Mhalas Belvedere yn Fienna. Fe wnaethant leihau hawliadau Hwngari i 43,492 km² gyda phoblogaeth o 2,667,007. Cyfarfu Cyngor Coron Rwmania dros nos ar 30–31 Awst 1940 i dderbyn y cyflafareddiad. Yn y cyfarfod, mynnodd Iuliu Maniu fod y Brenin Carol II yn ymwrthod â'r telerau a bod byddin Rwmania yn gwrthsefyll lluoedd Hwngari yng ngogledd Transylfania. Gwrthodwyd ei alwadau yn bragmataidd.[2]
Y dyfarniad
golyguYn dilyn ymgynghoriadau uniongyrchol ag Adolf Hitler, cyhoeddwyd y penderfyniad cyflafareddu ar 30 Awst 1940 ym Mhalas Belvedere yn Fienna gan Weinidog Tramor yr Almaen, Joachim von Ribbentrop a chan yr un Eidalaidd, Galeazzo Ciano. Yna llofnodwyd y ddogfen hefyd gan eu cymheiriaid, Iarll István Csáky ar ran Hwngari a Mihail Manoilescu ar ran Rwmania.
Cyflwynir yr ystadegau poblogaeth yng Ngogledd Transylvania a'r newidiadau yn dilyn y dyfarniad yn fanwl yn yr adran nesaf. Arhosodd gweddill Transylvania, a elwir yn ne Transylfania, gyda 2,274,600 o Rwmaniaid a 363,200 o Hwngariaid.
O ganlyniad i Ail Ddyfarniad Fienna, gorfododd Rwmania ei hun i ddychwelyd gogledd Transylfania i Hwngari, tiriogaeth o 43,492 km² a 2,609,007 o drigolion gan ymestyn Hwngari yn ddwfn fewn i'r Carpatiau i gynnwys yr ardal a boblogwyd gan y Székely. Arhosodd gweddill Transylfania (gyda 400,000 o Hwngariaid eraill) o dan sofraniaeth Rwmania, a chafodd Bucharest warant ffin yr Eidal-Almaenig yn gyfnewid.
O safbwynt demograffig, roedd y tiriogaethau a atodwyd gan Budapest yn cynnwys (yn seiliedig ar ystadegau Rwmania o 1930) 968,371 Hwngariaid (37%), ond hefyd 1,304,898 o Rwmaniaid (50%), a lleiafrifoedd bach o Almaenwyr, Sipsiwn, Slofaciaid, Iwcraniaid ac Armeniaid. Ysgogodd y ffiniau newydd, yr un mor amharchus o egwyddor cenedligrwydd â rhai'r Trianon, lif mudol enfawr i'r ddau gyfeiriad.
Canlyniadau
golyguRhoddwyd 14 diwrnod i Rwmania glirio'r tiriogaethau a neilltuwyd i Hwngari ac ar 5 Medi 1940, croesodd milwyr Hwngari yr hen ffin. Tra bod poblogaeth Magyar yn croesawu’r milwyr fel rhyddhawyr, taflwyd y gymuned Rwmanaidd yn ôl i amseroedd Ymerodraeth Awstria-Hwngari a gwelsant eu hannibyniaeth yn diflannu. Wrth gyflawni’r gweithrediadau o gymryd meddiant o’r diriogaeth, roedd byddin Hwngari yn gyfrifol am farwolaethau dros 1,000 o sifiliaid, yn enwedig menywod, hen bobl a phlant nad oedd wedi gadael y gwledydd â phoblogaeth Slaf yn bennaf. O safbwynt gwleidyddol, datgelodd Ail Ddyfarniad Fienna freuder y gynghrair Almaenig-Sofietaidd yn 1939 ac amwysedd polisi tramor Hitler. Roedd gwarant yr Almaenwyr o ffiniau newydd Rwmania (gan gynnwys yr un â'r Undeb Sofietaidd) mewn cyferbyniad agored ag Erthygl 3 o Atodiad gyfrinachol Cytundeb Molotov–Ribbentrop, yn ôl yr hyn yr oedd yr Almaen wedi gwarantu "diffyg diddordeb gwleidyddol llwyr" â thiriogaethau de-ddwyrain Ewrop.
Yn bendant, gwanhawyd Rwmania gan ddigwyddiadau haf 1940: roedd adolygiad y ffiniau gyda’r Undeb Sofietaidd wedi adfywio nid yn unig archwaeth Hwngari, ond hefyd rhai Bwlgaria. Mewn gwirionedd, roedd llywodraeth Sofia yn mynnu ar yr un pryd ran o'r Dobrujah, y gwnaeth Bucharest ymgrymu â Chytundeb Craiova ar 7 Medi 1940.
Colled Arall i Rwmani - i Bwlgaria
golyguYn y cyfamser, roedd llywodraeth Rwmania wedi cytuno i gais yr Eidal am ddarfyddiadau tiriogaethol i Bwlgaria, cymydog arall wedi'i alinio â'r Almaen. Ar 7 Medi, o dan Gytundeb Craiova, cafodd "Cadrilater" (de Dobrudja) ei roi gan Rwmania i Fwlgaria.
Gwydroi Ail Ddyfarniad Fienna
golyguAr ôl diwedd yr Ail Ryfel Byd, daeth holl gytuniadau 1940 i ben. Adferodd Gytundeb Paris rhwng y Cynghreiriaid a Hwngari y ffiniau a fodolai cyn y Rhyfel (rhwng Hwngari a Rwmania, ond nid rhwng Rwmania a'r Undeb Sofietaidd), gan ddatgan ymhlith pethau eraill (Rhan I, Erthygl 1, Paragraff 2), bod "penderfyniadau cyflafareddiad Fienna ar 30 Awst 1940 yn ddi-rym. Mae'r ffin rhwng Hwngari a Rwmania wedi'i hail-gyfansoddi fel yr oedd ar 1 Ionawr 1938".
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Árpád E. Varga, Transylvania's History Archifwyd 2017-06-09 yn y Peiriant Wayback, Kulturális Innovációs Alapítvány
- ↑ 2.0 2.1 2.2 Giurescu 2000, tt. 37–39.
Dolenni allanol
golygu- Time magazine, Fascist Edens, 14 Tachwedd 1938 Archifwyd 2013-07-21 yn y Peiriant Wayback