Gwlypdiroedd y Fali

Gwarchodfa natur yng ngogledd-orllewin Ynys Môn yn perthyn i'r RSPB yw Gwlypdiroedd y Fali (Saesneg: Valley Wetlands). Saif i'r de-ddwyrain o bentref Y Fali, yng nghymuned Llanfair-yn-neubwll a gerllaw gorsaf RAF y Fali. Mae'n cynnwys nifer o lynnoedd: Llyn Traffwll, Llyn Penrhyn, Llyn Treflesg a rhan o Llyn Dinam, ynghyd a'r corsydd o gwmpas y llynnoedd ac ar hyd Afon Crigyll. Mae'r rhan fwyaf o'r warchodfa yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

Gwlypdiroedd y Fali
Mathgwarchodfa natur Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYnys Môn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.262°N 4.525°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganY Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar Edit this on Wikidata
Map
Llyn Penrhyn
Llyn Treflesg

Ceir amrywiaeth o blanhigion dŵr ar yr warchodfa, megis Elatine hydropiper, Butomus umbellatus Thelypteris thelypteroides a Carex pseudocyperus, ac mae'r rhwogaethau o adar sy'n nythu yma yn cynnwys nifer o hwyaid. Yn y gaeaf, ceir Aderyn y bwn ar brydiau. Ymhlith y mamaliaid, ceir y Dyfrgi.