Gwrthddwyieithrwydd
(Ailgyfeiriad o Gwrthdwyieithrwydd)
Gwrthddwyieithrwydd yw'r term a ddefnyddir am weithrediadau neu bolisïau sy'n gwrthwynebu dwyieithrwydd ac yn ceisio atal y defnydd o ieithoedd heblaw'r iaith swyddogol neu'r iaith fwyafrifol.
Mae hyn yn digwydd yng Nghanada, yn erbyn y Ffrangeg, ac yn yr Unol Daleithiau yn erbyn y Sbaeneg.
Mae polisi Llywodraeth Ffrainc yn erbyn dwyieithrwydd hefyd, fel yn achos y Llydaweg yn Llydaw a'r Ocsitaneg yn y De, er enghraifft.
Roedd nifer o bolisïau yn erbyn dwyieithrwydd yng Nghymru yn y gorffennol, megis y Welsh Not.[1] Yn fwy diweddar, cafwyd nifer o achosion lle ceisiodd cyflogwyr atal eu staff rhag siarad Cymraeg yn y gweithle, o Helynt Brewer Spinks ym 1965 hyd at Thomas Cook yn gwahardd y defnydd o'r Gymraeg gan eu gweithwyr yn 2007.[2]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ The Welsh language in 19th century education. BBC.
- ↑ Thomas Cook Welsh 'ban' concerns. BBC (10 Mehefin 2007).