Term am amrywiaeth o dechnegau sy'n ddefnyddiol i fyw a goroesi yn y gwyllt, ac sy'n canolbwyntio ar ddefnyddio adnoddau naturiol o'r amgylchedd mewn modd gynaladwy yw gwylltgrefft.

Er fod gwylltrefft wedi cael ei arfer gan ddynoliaeth ers miloedd o flynyddoedd, gyda datblygiad y byd modern y duedd yw i gymdeithas ddefyddio llai o'r sgiliau hyn yn gyffredinol. Yn y cyfamser, mae rhai unigolion wedi gwneud ymdrech i ddysgu a pharhau i ddefnyddio y technegau yma. Rhannwyd y sgiliau yma gyda chynulleidfa ehangach drwy arweinwyr yn y maes fel Ray Mears, a'i raglenni teledu amrywiol.[1] Bathwyd y term Cymraeg 'gwylltgrefft' gan Carwyn Jones a'i gyfeillion yn dilyn sgwrs ar y wefan gymdeithasol Twitter.[2]

Rhai o Dechnegau Gwylltgrefft golygu

  • Y gallu i ddod o hyd i ddŵr yfadwy.
  • Y gallu i gynnau tân gan ddefnyddio deunyddiau naturiol o'r amgylchedd.
  • Y gallu i adeiladu lloches o adnoddau naturiol.
  • Meddu ar wybodaeth am blanhigion ac anifeiliaid cynhenid, a'r gallu i gasglu a pharatoi bwyd mewn natur.
  • Y gallu i ddefnyddio a gofalu am offer megis bwyeill, cyllyll ac ebillion torri yn gywir a gofalus.
  • Y defnydd o ddeunyddiau naturiol i greu gwrthrychau (e.e. cynwysyddion, llwyau a llinynnau naturiol).
  • Byw mewn cytgord â'r amgylchedd naturiol.

Cyfeiriadau golygu