Gwyn Parry

actor a aned yn 1946

Roedd Gwyn Parry (194619 Mawrth 2014) yn actor Cymreig.[1].

Gwyn Parry
Ganwyd1946 Edit this on Wikidata
Rachub Edit this on Wikidata
Bu farw19 Mawrth 2014 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethactor Edit this on Wikidata

Blynyddoedd cynnar

golygu

Cafodd ei fagu yn Rachub, Bethesda.

Gwaith theatr

golygu

Ymunodd â Chwmni Theatr Cymru yn syth o Brifysgol Bangor a bu'n rhan o'i hadran arbrofol, Theatr Antur. Bu hefyd yn aelod o Gwmni'r Fran Wen

Gwaith teledu

golygu

Ymddangosodd mewn sawl drama deledu gan gynnwys Pengelli, A470, Pobol y Cwm a Porc Peis Bach, Y Stafell Ddirgel, Treflan, Porthpenwaig, Llafur Cariad, Caryl a'r gyfres deledu i blant, Miri Mawr.[2]

Gwaith radio

golygu

Actiodd mewn nifer o ddramâu ar Radio Cymru, gan gynnwys Y Streic Fawr, Cudd fy Meian, Gwylanod, Glesni, Cwacs a Dani.[3]

Bu farw'n 67 oed yn ei gartref yng Nghaernarfon. Roedd yn dad i ddau o blant.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Jones, Valmai (Mai 2014). Gwyn Parry (1946-2014), Rhifyn 616. Barn
  2.  Yr actor Gwyn Parry wedi marw. BBC Cymru (20 Mawrth 2014). Adalwyd ar 26 Mehefin 2014.
  3.  Yr actor Gwyn Parry wedi marw. Golwg360 (20 Mawrth 2014). Adalwyd ar 26 Mehefin 2014.