Pengelli (cyfres deledu)
Cyfres ddrama oedd Pengelli a ddarlledwyd ar S4C rhwng 1994 a 2001. Crëwyd y gyfres gan Gareth F. Williams ac Angharad Jones. Cafodd ei gynhyrchu gan Ffilmiau'r Nant a chynhyrchydd gwreiddiol y gyfres oedd Alun Ffred Jones. Roedd yr opera sebon yn dilyn bywyd gweithwyr mewn parc busnes yng ngogledd-orllewin Cymru.[1]
Pengelli | |
---|---|
Fformat | Cyfres ddrama |
Cyfarwyddwyd gan | amrywiol |
Gwlad/gwladwriaeth | Cymru |
Iaith/ieithoedd | Cymraeg |
Nifer cyfresi | 7 |
Cynhyrchiad | |
Cynhyrchydd | Alun Ffred Jones |
Amser rhedeg | 30 munud |
Cwmnïau cynhyrchu |
Ffilmiau'r Nant |
Darllediad | |
Sianel wreiddiol | S4C |
Darllediad gwreiddiol | 9 Tachwedd 1994 – 13 Chwefror 2001 |
Dolenni allanol | |
Proffil IMDb |
Roedd rhai o actorion y gyfres yn cynnwys Bryn Fôn, Morfudd Hughes, Siân James, Nerys Lloyd, Gwyn Parry, Maldwyn John, Llŷr Ifans, Gaynor Morgan Rees a Buddug Povey.
Ymysg yr awduron roedd Mari Emlyn, Dwynwen Berry, Paul Griffiths, Marged Esli.
Cyhoeddwyd cyfrol am y gyfres a'i chymeriadau yn 1996.
Ail-ddarlledwyd y gyfres o'r cychwyn yn 2018.
Cymeriadau
golyguRhestr o'r brif gymeriadau yn y gyfres:
Cymeriad | Actor | Cyfnod | Disgrifiad |
---|---|---|---|
Gwenda Lloyd | Morfudd Hughes | Cyfres 1-7 | Perchennog cwmni arlwyo 'Ar Lwy' |
Carla Thomas | Nerys Lloyd | Cyfres 1-4 | Partner busnes Gwenda |
Gwyn Lloyd | Bryn Fôn | Cyfres 1-4 | Cyn ŵr Gwenda a pherchennog cwni technoleg ym Mhengelli |
Harri Griffiths | Gwyn Parry | Cyfres 1-7 | Perchennog y garej |
John Albert Jones | Maldwyn John | Cyfres 1-7 | Mecanic yn garej |
Edwin Parri | Llŷr Ifans | Cyfres 1-7 | Cyd-berchennog y garej |
Luned Watkins | Gaynor Morgan Rees | Cyfres 1-3 | Rheolwraig safle Pengelli |
Liz Howells | Siân James | Cyfres 1-2 | |
Geraint Williams | Rhys Richards | Cyfres 1-2 | |
Arthur Owen | Eric Wyn | Cyfres 1-4 | Tad Gwenda |
Richard Howells | Grey Evans | Cyfres 1-2 | Tad Liz Howells |
Louise | Lynda Brown | Cyfres 1 | |
Iola Lloyd | Gwyneth Glyn | Cyfres 1-4 | Merch i Gwenda a Gwyn Lloyd |
Annette Thomas | Buddyg Povey | Cyfres 1-7 | Chwaer Carla, gweithiwr yn Ar Lwy |
Anwen Parri | Mirain Llwyd Owen / Emma Williams | Cyfres 1-7 | Nyrs, gwraid i Edwin a merch i John Albert a Medwen |
Anne Lloyd | Valerie Wynne Williams | Cyfres 1, 3 | Mam Gwyn Lloyd |
Medwen Jones | Gwen Lazarus | Cyfres 1-7 | Gwraig John Albert |
Peris Jones | Stephen Owen | Cyfres 1, 3 | Brawd John Albert a chyn ŵr Annette |
Barbra Morgan | Valmai Jones | Cyfres 1-7 | |
Olwen Price | Bethan Gwilym | Cyfres 1 | Cyn gariad i Harri |
Mari Jones | Elin Haf | Cyfres 1-3 | Merch i John Albert a Medwen |
Rhodri Watkins | Aled Rhys Davies | Cyfres 3 | Mab i Luned, gweithiwr yn Ar Lwy |
Ben | Dafydd Emyr | Cyfres 4 | Cariad i Gwenda a gweithiwr yn Ar Lwy |
Eryl | Marged Esli | Cyfres 4 | Mecanic dros dro yn y garej |
Victor Idwal | Emyr Morgan Evans | Cyfres 1-4 | |
Ceri | Gwenno Hodgkins | Cyfres 4 |
Penodau
golyguCyfres 1 (1994-1995)
golyguPennod | Disgrifiad |
---|---|
1 | |
2 | Mae Gwenda mewn tymer ffiaidd ond beth ydy'r gwir berthynas rhwng Gwyn a Gwenda? |
3 | Ydy Gwenda yn mynd i ddweud y gwir am ei thad wrth Iola? Mae Richard yn ffraeo gyda'i ferch ynglŷn â'i chariad, Geraint. |
4 | Mae Edwin yn llwyddo i gael defnyddio uned Harri. Mae Gwenda'n penderfynu mynychu gwersi Gwyn er mawr syndod i bawb. |
5 | Mae Gwenda'n troi at Gwyn am gymorth ac mae Gwyn yn cyfarfod Iola o'r diwedd. |
6 | Mae Iola wedi mynd i aros yn nhy ei nain yn erbyn ei hewyllys. Mae John Albert yn chwilio am ffordd o gael gwared o Louise. |
7 | Mae Arthur yn dod adref o'r ysbyty a Carla yn penderfynu dweud wrth Gwenda ei bod yn cael ei gor-weithio. |
8 | Mae'r heddlu yn chwilio am Geraint a'r bobl ar y stad wedi'u cyffroi. Ac mae Annette yn corddi'r dyfroedd gyda Gwenda. |
9 | Mae noson ieir Annette ac mae Louise yn synnu gweld Medwen yn edrych mor dda. Mae Annette a Gwenda yn cweryla. |
10 | Mae'n ddiwrnod priodas Annette a Peris - beth allai fynd o'i le? |
11 | Mae Geraint a Liz yn ffraeo; Gwyn yn cael parti a phethau'n mynd yn gymhleth i Gwenda. |
12 | Mae'r tyndra rhwng Geraint a Liz yn cynyddu wrth i'r ddawns ddod yn nes. Ac mae gan Gwenda gwestiwn anodd i'w ofyn i Carla. |
13 | Mae Geraint a Gwenda eisiau cael gafael ar Gwyn - ond am resymau gwahanol. |
14 | Ydy Gwyn a Gwenda'n closio at ei gilydd? A phwy sydd am gynnig llety i Edwin? |
15 | Mae dathliadau'r Flwyddyn Newydd wedi creu tensiwn rhwng Gwenda ac Iola. Mae Barbra, tenant newydd yn cyrraedd Pengelli. |
16 | Mae Iola'n mynd i'r gig er mawr siom i'w mam. Mae Carla'n cyfaddef i Annette ei bod hi'n disgwyl. |
17 | Mae Gwyn a Gwneda yn gorfod wynebu canlyniad goryfed Iola. |
18 | Diwrnod priodas Harri ac Olwen, ond nid yw Harri yn cyrraedd y swyddfa gofrestru. |
19 | Mae Carla'n dweud ei chyfrinach wrth John Albert. |
20 | Mae byd Gwyn ar fin chwalu'n tra bo John Albert yn cael sioc sy'n ei sobri. |
Cyfres 2
golyguPennod | Disgrifiad |
---|---|
1 | Mae Harri'n poeni y bydd yn rhaid iddo ddiswyddo un o'i weithwyr ac mae Gwenda'n dathlu ei phen-blwydd. |
2 | Mae cystadleuaeth yn tanseilio busnes Ar Lwy; mae Liz yn darganfod dyledion ei thad ac mae Edwin ar fin golli ei swydd. |
3 | Mae Gwenda'n dal i ddial ar Barbara a'i chyhuddo o danseilio'i busnes. |
4 | Mae rhagor o drafferthion ym Mhengelli ar ôl i rywun dorri i mewn i swyddfa Barbara. Mae Annette yn colli ei swydd a Gwyn yn mynnu pres gan Gwenda |
5 | Mae Gwenda'n poeni wrth i'w chyn wr ei bygwth ac mae'n cael ymweliad annisgwyl gan swyddog iechyd. |
6 | Mae John Albert yn mynd i ocsiwn geir am y tro cyntaf ond mae Harri yn trefnu cydymaith iddo ac yn drysu ei gynlluniau i gwrdd â Carla. |
7 | Mae Gwenda'n trefnu i bawb ddathlu genedigaeth wyres John Albert ac mae brawd Geraint yn cael ei ryddhau o'r carchar. |
8 | Mae John Albert yn cael cynnig gwneud mwy o arian ac mae Liz yn helpu Gwyn i ddod o hyd i'r bwrdd gafodd ei ddwyn. |
9 | Mae John Albert a Carla yn dod â'u carwriaeth i ben. Mae Liz a Gwyn yn llwyddo i ddod o hyd i eiddo gafodd eu dwyn oddi wrth ei fam. |
10 | Mae'r tensiwn yn codi rhwng Harri a John Albert ond mae John yn benderfynol o barhau â'i garwriaeth. |
11 | Mae Medwen yn dod i wybod am garwriaeth ei gwr a Carla ac mae hi'n ei daflu allan o'r ty. |
12 | Mae Medwen yn mynd i weld Carla ac mae Carla yn penderfynu derbyn swydd a gynigiwyd i Annette fel nani yng Nghaerdydd. |
13 | Mae tenantiaid Pengelli yn dathlu dyweddiad Liz a Geraint, ond nid yw Liz yno |
14 | Mae Liz yn parhau i fwynhau sylw gan Gwyn Lloyd wrth i'w pherthynas â Geraint ddirywio. |
15 | Mae Gwenda'n derbyn galwadau ffôn cas di-enw a wnaethpwyd o fusnesau Geraint a Liz. |
16 | Mae llanast bywyd John Albert yn mynd ar nerfau Edwin ond mae'n dioddef fwy pan mae gwr Janis yn dychwelyd i'w chartref. |
17 | Mae noson ddadorchuddio plac Ap Menai yn troi'n dipyn o achlysur wrth i Harri berswadio Edwin a John Albert i ymuno ag ef am swper. |
18 | Mae Arthur ac Annette yn amau doethineb penderfyniad Gwenda i werthu'r busnes. |
19 | Mae'r heddlu eisiau i Harri gymryd John Albert yn ôl i'w swydd er mwyn eu cynorthwyo nhw i ddal Cledwyn. |
20 | Mae Edwin yn yr ysbyty ar ôl yr ymosodiad; daw Liz i ddeall gwir gymeriad Gwyn Lloyd ac mae Annette yn flin hefo Gwenda. |
21 | Mae Cled a dau arall yn ceisio ymosod ar John Albert ac mae Gwyn Lloyd mewn trafferthion ariannol. |
22 | Mae pethau'n edrych yn ddu iawn i Gwyn Lloyd ac mae Harri yn cynnig ei hen swydd yn ôl i John Albert. |
23 | Mae trafferthion Gwyn Lloyd yn cyrraedd uchafbwynt ac mae'n ymosod ar Luned, Gwenda a Liz. |
24 | Mae Gwyn Lloyd yn cyrraedd pen ei dennyn a Liz yn rhannu cyfrinach gyda Gwenda. |
Cyfres 3
golyguPennod | Disgrifiad |
---|---|
1 | |
2 | Mae Pengelli ar werth a Harri'n derbyn cynnig na all ei wrthod. Mae John Albert yn ceisio dyfalu pwy yw cariad Edwin. |
3 | All John Albert ddim credu ei glustiau wrth glywed mai Anwen ei ferch yw cariad Edwin. |
4 | Mae Harri'n mynnu bod John Albert yn gadael y tŷ ond mae Medwen yn ei gymryd yn ôl. |
5 | Syrpreis i Barbara yn ystod ei pharti pen-blwydd. Ond a fydd hi'n fodlon gyda'r dathliadau? |
6 | Mae Annette yn gosod trap i Rhodri ac mae Harri'n cael cynnig bod yn gynghordydd. |
7 | Daw Carla yn ôl i gorddi'r dyfroedd ac mae ganddi rywbeth i'w ddweud wrth bawb. |
8 | Mae Luned yn gadael Pengelli a'r criw yn trefnu parti ffarwel i'w gofio. |
9 | Mae breuddwydion Carla yn cael eu chwalu ac mae hen ffrind yn dod yn ôl i Bengelli. |
10 | Mae Gwyn Lloyd yn dechrau ar ei hen driciau tra bo cynlluniau Edwin ac Anwen i briodi yn corddi'r dyfroedd. |
11 | Daw Gwyn Lloyd wyneb yn wyneb â Gwenda. Mae priodas Anwen ac Edwin yn dangos pawb ar eu gorau - ar wahân i John Albert. |
12 | Ar drothwy'r diwrnod mawr mae'r paratoadau ar gyfer priodas Anwen ac Edwin yn dechrau mynd yn ormod i bawb. |
13 | Mae Anwen ac Ediwn yn priodi ond beth yw hanes John Albert? |
Cyfres 4
golyguPennod | Disgrifiad |
---|---|
1 | Mae Anwen ac Edwin yn dechrau bywyd priodasol drwy greu cartref newydd. |
2 | Mae Gwyn Lloyd yn bihafio'n ofnadwy ac mae Carla'n mynnu ffarwelio â phawb. Ond a fydd hi'n gadael am Awstralia? |
3 | Mae tynged Gwyn Lloyd yn bwrw ei gysod dros Bengelli. |
4 | Tra bo Gwenda yn dathlu, daw ymwelydd dieithr i 'Ar Lwy'. Mae'n rhaid i Edwin ac Anwen ddod i benderfyniad. |
5 | Mae Anwen yn cychwyn ar ei chwrs nyrsio ac mae Annette yn gofyn i Gwenda am fenthyciad ariannol. |
6 | Mae Iola'n dweud wrth ei mam am funudau olaf Gwyn Lloyd. Mae Edwin yn prynnu car tra mae trafferthion ariannol Harri yn gwaethygu. |
7 | Mae criw Pengelli yn mynd am drip i Landudno i ddathlu'r ffaith bod Gwenda wedi ennill arian y loteri. |
8 | Mae oblygiadau'r trip i Landudno yn dal i hofran dros griw Pengelli ond mae storm go iawn ar fin taro'r garej. |
9 | Mae Gwenda'n darganfod bod Iola'n colli ysgol. Mae John Albert yn cwympo yn y garej ac yn bwrw ei ben. |
10 | Mae Edwin yn teimlo'r straen o weithio yn y garej ar ei ben ei hun, ond daw mecanig i'w helpu o'r enw Eryl. |
11 | Mae fideo o Carla yn cyrraedd o Awstralia ac mae Annette yn derbyn newyddion diddorol bod gan Ben blentyn |
12 | Mae Annette yn trefnu noson allan yn y dafarn lle mae gwraig Ben yn rhoi gwersi dawnsio llinell! |
13 | Beth fydd oblygiadau'r noson dawnsio llinell a pha ddiolch gaiff John Albert am roi lift i hen wr i'r orsaf? |
14 | Mae Barbara yn derbyn newyddion da; mae'r neidr yn creu trafferth ac mae Annette yn cyrraedd pen ei thennyn. |
15 | Mae Gwenda'n penderfynu gwerthu 'Ar Lwy' ac mae Barbara yn derbyn mwy o newyddion da. |
Cyfeiriadau
golyguDolenni allanol
golygu- (Saesneg) Pengelli ar wefan Internet Movie Database
- Pengelli ar BBC iPlayer