Gwyn gwythiennau gwyrddion
Gwyn gwythiennau gwyrddion | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Dosbarth: | |
Urdd: | Lepidoptera |
Teulu: | Pieridae |
Genws: | Pieris |
Rhywogaeth: | P. napi |
Enw deuenwol | |
Pieris napi (Linnaeus, 1758) |
Glöyn byw sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw gwyn gwythiennau gwyrddion, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy gwynion gwythiennau gwyrddion; yr enw Saesneg yw Green-veined White, a'r enw gwyddonol yw Pieris napi.[1][2] Mae i'w ganfod ledled Ewrop ac Asia gan gynnwys India.
Caiff ei ganfod mewn caeau a meysydd agored, tamp ac nid yw i'w weld yn aml mewn gardd. Gall fyw hyd at 2,600 m uwch lefel y môr. Un smotyn sydd gan yr oedolyn gwryw ar ei adenydd blaen, ond mae gan y fenyw ddwy. Mae'r siani flewog yn treulio'r gaeaf fel chwiler. Yn Ewrop ceir dwy neu dair cenhedlaeth ac maent i'w gweld ar adain rhwng Ebrill a Medi.
Disgrifiad
golygu-
Pieris napi ♂
-
Pieris napi ♂ △
-
Pieris napi ♀
-
Pieris napi ♀ △
Bwyd
golyguCaiff yr wyau eu dodwy ar nifer o blanhigion, gan gynnwys: Sisybrium officinale, Alliaria petiolata, Cardamine pratense, berw dŵr (Rorippa nasturtium-aquaticum), Sinapis arvensis, Cardamine amara, bresych gwyllt (Brassica oleracea) a rhuddugl gwyllt (Raphanus raphanistrum). Oherwydd hyn, nid yw byth yn cael ei gyfri fel pla mewn gardd. Cuddliw o wyrdd sydd gan y siani flewog a dail yn unig mae'n ei fwyta, nid y blodau.
Cyffredinol
golyguGellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnwys mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.
Wedi deor o'i ŵy mae'r gwyn gwythiennau gwyrddion yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
- ↑ Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.