Gwyn rhesog
Cabera pusaria | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Dosbarth: | |
Urdd: | Lepidoptera |
Teulu: | Geometridae |
Genws: | Cabera |
Rhywogaeth: | C. pusaria |
Enw deuenwol | |
Cabera pusaria Linnaeus, 10ed rhifyn o Systema Naturae, 1758 |
Gwyfyn sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw gwyn rhesog, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy gwynion rhesog; yr enw Saesneg yw Common White Wave, a'r enw gwyddonol yw Cabera pusaria.[1][2]
Mae i'w ganfod yn y Palearctig a'r Dwyrain Agos. 32–35 mm ydy lled yr adenydd ac mae'r oedolyn yn hedfan rhwng Mai ac Awst; ceir dwy neu dair cenhedlaeth, yn ddibynol ar leoliad. Lliw porffor-frown ydy lliw'r siani flewog ac mae'n bwyta rhannau o goed a pherthi gan gynnwys y wernen, yr aethnen, coed bedw, derwen a helygen. Mae'r wyn resog yn treulio'r gaeaf fel chwiler.
Cyffredinol
golyguGellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnyws mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.
Wedi deor o'i ŵy mae'r gwyn rhesog yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
- ↑ Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.