Gylfingroes
Gylfingroes Loxia curvirostra | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Passeriformes |
Teulu: | Fringillidae |
Genws: | Loxia[*] |
Rhywogaeth: | Loxia curvirostra |
Enw deuenwol | |
Loxia curvirostra
| |
Dosbarthiad y rhywogaeth |
Mae'r Gylfin Groes (Loxia curvirostra) yn perthyn i'r teulu Fringillidae, y llinosiaid. Nid yw'n aderyn mudol fel rheol, ond ambell dro mae nifer fawr ohonynt yn symud tua'r de a'r gorllewin os oes prinder bwyd yn eu cynefin arferol. Tu allan i'r tymor nythu mae'n aml yn ymgasglu'n heidiau mawr, weithiau gyda rhywogaethau gylfingroes eraill.
Caiff ei enw o'r ffaith fod dau hanner y pig yn groes, fel nad ydynt yn cyfarfod ei gilydd yn y tu blaen. Addasiad i fwydo ar gonau coed conifferaidd yw hyn. Coch yw lliw'r ceiliog fel rheol, a'r iâr a'r adar ieuanc yn wyrdd, ond mae rhywfaint o amrywiaeth.
Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod yng Ngogledd America, Asia, Ewrop. Yng Nghymru mae'n aderyn gweddol hawdd ei adnabod, oherwydd dyma'r unig rywogaeth o gylfingroes sy'n nythu, ac anaml iawn y gwelir unrhyw un o'r rhywogaethau eraill. Lle ceir nifer o rywogaethau gall fod yn anodd iawn gwahaniaethu rhyngddynt, er enghraifft yn Yr Alban lle ceir Croesbig yr Alban a'r Croesbig Mawr. Gall maint y pig fod yn gymorth i'w gwahaniaethu, ac mae'r alwad ychydig yn wahanol.
Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn L. curvirostra, sef enw'r rhywogaeth.[1]
Teulu
golyguMae'r gylfingroes yn perthyn i deulu'r Pincod (Lladin: Fringillidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:
Rhestr Wicidata:
rhywogaeth | enw tacson | delwedd |
---|---|---|
Q777369 | Carpodacus waltoni eos | |
Nico | Carduelis carduelis | |
Serin sitron | Carduelis citrinella | |
Tewbig cynffonddu | Eophona migratoria |
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan Avibase; adalwyd 3 Hydref 2016.